Mewn partneriaeth â chwmni Start Up Loans, penodwyd Antur Teifi i ddarparu’r gwasanaeth Benthyciadau Dechrau Busnes ar draws Powys, Ceredigion, Sir Gâr, Sir Benfro a Gogledd Cymru.
Mae llawer o gwmnïau newydd a busnesau bach yn aml yn ei chael yn anodd i gael benthyciad drwy ddulliau traddodiadol megis banciau. Ers yr argyfwng ariannol, mae benthyca i fusnesau bach a chanolig yn dal i fod yn her i fanciau’r stryd fawr.
Ers 2013 mae’r Start Up Loan Company wedi cynnig llwybr arall i dros 24000 o unigolion sydd wedi cael syniad busnes da, ond heb fynediad at gyllid.
Hyd yn hyn, maent wedi rhoi benthyg tua £130,000 gyda maint benthyciad ar gyfartaledd o £6,000. Mae’r swm terfynol yn amryiwo ac yn cael ei benderfynu gan eich cynllun busnes. Ie, y cynllun busnes bondigrybwyll! Ond peidiwch â becso.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda ni, byddwn yn eich paru ag ymgynghorydd busnes a fydd yn mynd drwy eich cynnig busnes gyda chi AC yn eich helpu gyda’r cais am fenthyciad gan gynnwys cymorth wrth gwblhau’r cynllun busnes a rhagolygon llif arian er mwyn eich rhoi yn y sefyllfa gryfaf bosibl i sicrhau cais llwyddiannus.
Ar ôl i chi gael eich benthyciad, byddwn yn eich paru â mentor addas, yn cynnig cwrs hyfforddi yn rhad ac am ddim ynghyd â chynigion busnes eraill.
Mae Antur Teifi hyd at heddiw, wedi derbyn 112 o geisiadau 78 ohonynt wedi eu cyflwyno i SULCCo a 64 o’r rheini wedi cael eu cymeradwyo. Mae’r mathau o fusnes yn amrywiol iawn, gan gynnwys
- Harddwch
- Gwasanaeth Ceir
- Fan Arlwyo
- Harddwch i g?n
- Perchennog gwesty bach
- Trin Gwallt
- Mecanic
- Siop goffi symudol
- Cerddor
- Canolfan Trampolîn
- Cyflenwr Offer Milfeddygol
- Hyfforddwr Ioga
Ll?r yn llwyddo i roi sglein ar bethau gyda Benthyciad Dechrau Busnes
Wedi gadael yr ysgol, hyfforddodd Ll?r Jones o Landysul yn beiriannydd ceir er mwyn troi diddordeb yn broffesiwn.
O dipyn i beth, gwelodd Ll?r fod yna fwlch yn y farchnad am wasanaeth arwynebu â phowdwr. Penderfynodd ddechrau busnes ei hunan: LJ Powder Coating Services.
“Dwi wastad wedi mwynhau tynnu pethau’n ddarnau a’u rhoi nhw nôl at ei gilydd fel newydd” meddai Ll?r. “Dyna egin y syniad “
Gyda chymorth gan Ymgynghorydd Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru yn Antur Teifi i roi cynllun busnes at ei gilydd , gwnaeth Ll?r gais am Fenthyciad Dechrau Busnes.
“O’n i wrth y’m modd pan ges i wybod fod y cais wedi bod yn llwyddiannus”. Caniataodd y benthyciad i fi brynu’r offer gorau posib i’r fusnes yn ogystal ag amrywiaeth eang o gotiau er mwyn cynnig i’r cwsmer amrywiaeth o liwiau,a gweadau.”
Roedd sefydlu busnes yn ei gynefin yn bwysig i Ll?r. Diolch i’r Benthyciad Dechrau Busnes mae e wedi llwyddo i wneud hynny.
Felly, os ydych yn ystyried dechrau busnes neu wedi bod yn masnachu am lai na dwy flynedd, ffoniwch Rob Arlington ar 01239 71028 neu e-bostiwch [email protected]