Menter Antur Cymru, yn falch o gyflenwi contract cefnogaeth Busnes Cymru ar draws Canolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru
Cychwyn, rhedeg a thyfu eich busnes gyda Busnes Cymru
Mae gennym dîm o gynghorwyr profiadol a all gynnig cyngor ar bob agwedd o gychwyn, rhedeg a thyfu eich busnes.
Rydym yn cynnig gweithdai a weminarau rhithiol i roi rhagflas a gallant gynnwys pynciau Cychwyn a Rhedeg Eich Busnes, Cyllid, Marchnata, Adnoddau Dynol a Chynaliadwyedd.
Bydd ein Swyddogion Cysylltiadau Cwsmeriaid yn cynnal ymgynghoriad dros y ffôn gyda chi er mwyn asesu eich anghenion a rhoi pecyn cymorth ar waith a all gynnwys cefnogaeth un i un gan Gynghorydd Busnes profiadol.
Fel arfer, bydd y Cynghorydd Busnes yn adolygu eich syniad ac yn cynnig cyngor ar gynllunio ac ariannu busnes, cynnig cefnogaeth gyda marchnata a gweithrediadau er mwyn eich cyfeirio at gynghorwyr arbenigol a gwasanaethau eraill y llywodraeth.
Tyfu eich busnes
Efallai eich bod eisoes wedi cychwyn eich busnes neu’n gwmni wedi’i sefydlu gyda hanes masnachu. Gallwn eich helpu i dyfu a nodi cyfleoedd. Yn ddiweddar, fe wnaethom helpu rhoi nifer o fusnesau mewn cysylltiad â chymorth y llywodraeth yn ystod Argyfwng COVID-19.
Bydd ein cynghorwyr yn fwy na pharod i adolygu cynlluniau busnes a chyllid a’ch cyfeirio at ein tîm arbenigol. Gellir darparu’r gwasanaeth hwn yn rhithiol er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Gall ein cynghorwyr profiadol weithio gyda chi i...
- Archwilio cyfleoedd tendro
- Dechrau neu ehangu masnachu rhyngwladol
- Lleihau eich effaith ar yr amgylchedd ac arbed costau
- Recriwtio a rheoli staff gan gynnwys datblygu contractau cyflogaeth
- Deall gofynion treth a chadw llyfrau
Cymorth i gychwyn, rhedeg a thyfu eich busnes
- Cam 1
Archebwch le ar weithdy sy’n archwilio’r camau ar gyfer sefydlu a rhedeg busnes llwyddiannus
- Cam 2
Trefnwch sesiwn un i un gyda chynghorydd busnes profiadol am gefnogaeth arbenigol diduedd
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Astudiaethau achos
Coles Distillery
Buddsoddodd y teulu Coles lawer iawn o’u harian eu hunain o’u busnes…
Natural Weigh Ltd
Chloe a Robin Masefield yw perchnogion Natural Weigh Ltd, y siop ‘ddiwastraff’…
Roy’s Cafe
Cysylltodd perchennog Roy’s Cafe, Barir Eydan â Busnes Cymru ddiwedd 2019 pan…
TS Henderson & Co Ltd
Mae TS Henderson & Co Ltd yn gwmni peirianneg fanwl, sy’n arbenigo…
Fusion, Aberteifi
Sefydlodd Carman Yates Fusion yn Aberteifi yn 2017 gyda chefnogaeth Antur Cymru…
Purah Candles, Llanelli
Gadawodd Helen Williams ei swydd dysgu hanes, cyn mentro a chychwyn ei…
Gogledd Cymru
Astudiaethau achos
Hilltop Honey
Mae Hilltop Honey yn frand sefydledig sydd wedi ennill gwobrau am fêl…
Beyond Breakout
Daw profiad ystafell ddianc unigryw newydd i’r Drenewydd gyda chefnogaeth Busnes Cymru. …
Splice Cast
Mae Splice Cast yn y busnes o achub bywydau! Wedi’i leoli yn…
Maggie’s Exotic Foods
Cafodd Margaret Ogunbanwo ei magu a’i haddysgu yn Nigeria. Sefydlodd ei busnes,…
Ty Castell, Caernarfon
Manteisiodd Gareth Fon Jones a Roland Evans ar gyfle i greu busnes…
Holwch am ein cefnogaeth arbenigol...
Error: Contact form not found.