Nod cynllun Sgiliau Newydd Dechrau Newydd yw helpu pobl yng Ngheredigion i wireddu eu potensial. Mae ein rhaglen Sgiliau Newydd Dechrau Newydd yn helpu unigolion i ystyried cyfleoedd hunangyflogaeth, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth. Byddwn yn gweithio gyda chi i oresgyn unrhyw rwystrau rydych yn eu hwynebu trwy ddefnyddio dull hyfforddi wedi'i deilwra.
Gweithdai am ddim, a sesiynau un-i-un yng Ngheredigion, Hefyd mynediad i leoliadau masnachu manwerthu am ddim ar y stryd fawr yn nhrefi Ceredigion ar gyfer busnesau newydd sydd am roi tro ar fasnachu yn ogystal ag ennill sgiliau a phrofiad manwerthu mewn amgylchedd â chymorth.