S4C yn rhoi sylw i’r cyfle I brawf-fasnachu am ddim ar y stryd fawr.
🎥 Diolch o galon i’r criw o S4C am roi sylw i waith caled y masnachwyr lleol yn ein Gofod Masnachu yn Aberystwyth.
Mae’r Gofod Masnachu yn cynnig lle i fusnesau bach yng Ngheredigion i brawf-fasnachu yn rhad-ac-am-ddim a chyfle i’w cynnyrch gael eu gweld gan gwsmeriaid ar stryd fawr boblogaidd.
📺 Bu criw o’r rhaglen Prynhawn Da yn ffilmio yng ngofod masnachu Dechrau Newydd Sgiliau Newydd i ddysgu mwy am y prosiect a chlywed gan rai o’r masnachwyr eu hunain.
Os hoffech chi gefnogaeth i droi syniad neu gynnyrch yn fusnes proffidiol neu i holi am y gofod masnachu, cysylltwch â ni.
New Skills New Start – support in setting up new businesses in Wales (anturcymru.org.uk)