Gadawodd Helen Williams ei swydd dysgu hanes, cyn mentro a chychwyn ei busnes ei hun. Mae ei chanhwyllau Purah o’r radd flaenaf i’w gweld yn rhai o siopau manwerthu mwyaf nodedig Cymru, ond dechreuodd ei thaith gyda chymorth Busnes Cymru. Roedd hi wedi’i lleoli yn Llanelli, yn fam brysur a oedd yn gweithio amser llawn ac yn wynebu cyfnod tyngedfennol o ran ei swydd dysgu newydd. Penderfynodd fynd i un o weithdai Busnes Cymru sef ‘Cychwyn a rhedeg eich busnes’ a dyma ddechrau ar y gefnogaeth a dderbyniodd Helen sy’n cynnwys:
- Cefnogaeth un i un gan Gynghorydd Busnes Cymru profiadol
- Cyngor ynghylch enwi a brandio
- Mynychu gweithdy Cychwyn a Rhedeg eich busnes
- Mynychu gweithdy cadw llyfrau
- Mynychu gweithdy Marchnata
Mae Canhwyllau Purah ar gael nawr mewn dros 30 o siopau manwerthu safon uchel ar draws Cymru a Lloegr.