Mae TS Henderson & Co Ltd yn gwmni peirianneg fanwl, sy’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi rhannau a chydrannau wedi’u peiriannu’n fanwl gywir i ystod amrywiol o sectorau. Mae’r busnes yn gweithgynhyrchu rhannau ar gyfer injanau Merlin a Griffin Rolls Royce, a ddefnyddiwyd yn awyrennau eiconig Spitfire a Hurricane. Mae’r busnes wedi’i leoli yn y Gelli Gandryll a chyflogir 35 o bobl yno.
Gwasanaeth Busnes Cymru
Yn 2017, bu Busnes Cymru ar y cyd gydag Arbenigwr Arloesi Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo TS Henderson & Co i gyflwyno cais llwyddiannus am Daleb Arloesi gwerth £25,000 gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn peiriant CNC ychwanegol i gefnogi eu gweithgarwch peiriannu. Ym mis Rhagfyr 2018, cysylltodd Rob Henderson, y Rheolwr Gyfarwyddwr â Busnes Cymru i egluro’r effaith roedd Brexit yn ei chael ar ei fusnes a’r goblygiadau oedd yn cael eu hamlygu gan ei gwsmeriaid. Eglurodd Rob fod hynny’n golygu y gallai fod angen iddo fuddsoddi tua £100,000 mewn peiriannau CNC ychwanegol er mwyn gallu cynhyrchu mwy o gyfrannau allweddol i ddiwallu anghenion ei gwsmeriaid yn y DU. Roeddent yn ceisio casglu stoc o gydrannau ond roedd Rheolwr Gyfarwyddwr Henderson & Co yn ei chael yn anodd cyfiawnhau risg/llwyddiant buddsoddiad o’r fath.
Cynorthwyodd Rheolwr Perthynas Busnes Cymru TS Henderson & Co i wneud cais llwyddiannus am gymorth drwy Gronfa Cydnerthedd Brexit, a ddyfarnodd grant gwerth £40,000 tuag at gostau peiriant CNC 7 echel. Profwyd y buddion ar unwaith bron wrth i TS Henderson & Co dderbyn archebion newydd gwerth £132,000 am weddill 2019, ac mae’r derbynion hyn yn debygol o barhau, o flwyddyn i flwyddyn, am y 3 blynedd nesaf. Mae TS Henderson & Co hefyd yn derbyn cymorth gan Ymgynghorydd Cynaliadwyedd Busnes Cymru i archwilio eu nodweddion gwyrdd a’u strategaethau rheoli gwastraff, ac mae ganddynt berthynas barhaus gydag Ymgynghorydd Adnoddau Dynol Busnes Cymru i’w cefnogi wrth iddynt ehangu eu gweithlu.