Manteisiodd Gareth Fon Jones a Roland Evans ar gyfle i greu busnes gyda ‘ymdeimlad o le Cymreig’ yng Nghaernarfon ac fe aethant at Busnes Cymru er mwyn cael cefnogaeth wrth sefydlu’r busnes a chodi arian. Mae’r ddau yn siaradwyr Cymraeg ac fe aethant ati i ddod â’r cynnyrch lleol, y gosodion a’r ffitiadau gorau ynghyd i greu Pwynt Gwerthu Unigryw y fenter newydd.
Roedd y gefnogaeth gan Busnes Cymru yn cynnwys:
- Cynllunio Busnes a rhagolygon ariannol
- Codi arian ar gyfer prynu’r adeilad
- Dod o hyd i gefnogaeth ar ffurf grant
- Gweithdai a helpu perchnogion y busnes i ddod â’r sgiliau angenrheidiol ynghyd er mwyn diwallu gweledigaeth y busnes
Heddiw, mae’r busnes yn cynnig prydau tebyg i dapas ac yn arbenigo yn y cynnyrch gorau o Wynedd, Cymru a’r byd, gan gynnwys brecwast, cinio, te prynhawn a phrydau gyda’r hwyr. Mae pedair ystafell en-suite wedi’u dodrefnu’n wych er mwyn darparu profiad Cymreig unigryw i ymwelwyr.