Mae busnes cludo nwyddau sy’n ffynnu ar y ffordd i sero net diolch i Gronfa Sir y Fflint.

Llwyddodd Grŵp Farrall – sy’n cyflogi mwy na 110 o weithwyr yn ei safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Ashton Hayes, Sandycroft, Telford a Chasnewydd – i leihau ei ôl troed carbon gyda chefnogaeth gan y Gronfa Hyfywedd Lleihau Carbon.

Caiff y Gronfa ei darparu gan Antur Cymru Enterprise gyda chefnogaeth Pathway to Carbon Zero Ltd a Litegreen Ltd, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint.

Dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr Matthew Farrall, roedd y cwmni eisoes wedi cymryd camau breision o ran cynaliadwyedd, gan osod 1,400 o baneli solar yn ei bencadlys yng Nglannau Dyfrdwy – gan gynhyrchu hanner miliwn o gilowatiau y flwyddyn – cyflwyno tryciau fforch godi trydan, ac edrych i gyflwyno Olew Llysiau wedi’i Hydrodrin (HVO) i’w fflyd o dros 70 o gerbydau, sy’n cael eu golchi gan ddefnyddio system cynaeafu dŵr glaw.

Dywedodd Matthew, drwy’r Gronfa, fod ymgynghorwyr wedi eu helpu i gasglu gwybodaeth ac archwilio’r ffordd orau o barhau i weithredu dulliau ecogyfeillgar a dewisiadau amgen ynni adnewyddadwy yn y tymor hir.

“Mae mewnbwn Pathway to Carbon Zero a Litegreen wedi bod yn fuddiol iawn,” meddai.

“Atgyfnerthodd eu canfyddiadau’r newidiadau a wnaethom yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ogystal â chyfrannu at ein hadroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG) a rhoi’r hyder inni ein bod ar y llwybr cywir, gan nodi meysydd eraill lle gallwn fod yn fwy effeithlon o ran ynni.”

Ychwanegodd Matthew: “Fel busnes rydym yn canolbwyntio ar ein hôl troed carbon a’n cyfrifoldeb fel sefydliad sy’n teithio miloedd lawer o filltiroedd bob blwyddyn ac yn cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr o’i gerbydau, warws a gweithrediadau eraill.

“Byddwn yn parhau i wella a gweithio mewn partneriaeth â’r sectorau rydyn ni’n eu gwasanaethu, o gynhyrchu bwyd a gweithgynhyrchu i adeiladu, agregau, manwerthu a mwy.”

Gan agosáu at ei ben-blwydd yn 70 oed , mae gan Grŵp Farrall lori BEV (Cerbyd Trydan Batri) wedi’i harchebu, i gyrraedd yn y Gwanwyn, ac mae cam nesaf eu cynlluniau gwyrdd yn cynnwys storio batri trydan.

“Bydd hwnnw’n brosiect mawr ond yr un sydd wedi cael yr effaith fwyaf yw gosod y system solar yng Nglannau Dyfrdwy, gan leihau ein dibyniaeth ar ffynonellau ynni anadnewyddadwy yn sylweddol ac yn y bôn ein tynnu oddi ar y grid pan fydd yr haul yn tywynnu,” meddai Matthew.

“O ganlyniad, pan fydd y lori’n cyrraedd bydd yn cael ei phweru gan yr ynni solar a gynhyrchir, a’n targed yw i o leiaf 50% o’n cerbydau fod yn garbon niwtral erbyn 2040 – dyna’r hyn yr ydym yn anelu ato.”

Ychwanegodd: “Rydym am fod yn arweinydd mewn logisteg gynaliadwy ac rydym wedi ymrwymo i weithredu atebion sy’n cyfrannu at hynny, trwy fuddsoddi ac arloesi.”

Wedi’i hanelu at sefydliadau yn Sir y Fflint, derbyniodd Cronfa Hyfywedd Lleihau Carbon £297,294 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, gyda grantiau ar gael i fusnesau gael mynediad at gyngor arbenigol ar sut i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy, yn ogystal â chynnig canllawiau ar offer, adeiladau, defnydd ynni a systemau a dulliau a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon ac yn helpu i gynyddu proffidioldeb.

Dywedodd Rheolwr y Gronfa Rowan Jones: “Mae Grŵp Farrall yn un o’r cwmnïau mwyaf arloesol a blaengar yn y rhanbarth, yn enwedig o ran yr amgylchedd a newid hinsawdd.

“Rydym yn falch bod y gronfa wedi eu helpu i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi digwydd ac yn edrych ymlaen at barhau â’r bartneriaeth yn y dyfodol.”

Ewch i Hafan – Farrall’s (farralls.co.uk) am ragor o wybodaeth am Grŵp Farrall a dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol yn @farrallsgroup.