Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Ein nod yw bod yn sefydliad lle gall pawb gyflawni eu potensial.
Mae Antur Cymru wedi ymrwymo i adeiladu sefydliad sy’n gwneud defnydd llawn o’r amrywiaeth o dalentau, sgiliau, profiadau a safbwyntiau diwylliannol sydd yn rhan o gymdeithas aml – ethnig, a lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi,
Rydym yn dilyn canllawiau sy’n ein cefnogi yn ein hymdrechion i sicrhau amgylchedd gwaith lle mae pob un yn cael eu trin yn deg a gyda pharch.
Mae Rhwydwaith Hyrwyddwyr Amrywiaeth y cwmni yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith hwn drwy hwyluso amgylchedd gwaith cadarnhaol yn ogystal â darparu gwasanaethau sy’n dilyn yr un egwyddorion ar gyfer ein cleientiaid.
Mae Antur Cymru yn gosod esiampl yn y byd busnes o ran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth . Rydym yn glir iawn o ran y manteision busnes a ddaw yn sgil agwedd ragweithiol tuag at amrywiaeth. Fel sefydliad, rydym yn credu bod tynnu ar ystod eang o brofiadau yn fodd i gyfrannu syniadau newydd a dulliau newydd o weithio. Mae hyn yn ei dro yn arwain at amgylchedd cynhwysol a chreadigol sy’n rhoi mantais gystadleuol i’r busnes.
Gwyliwch cyflwyniad PowerPoint sy’n amlinellu’r manteision o gydnabod cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y gweithlu.