Rydym wedi bod yn arloesi gyda busnesau gwledig a chynnig cefnogaeth TG ers mwy na 40 mlynedd
Band Eang Gwledig
Rydym yn cefnogi pentrefi gwledig i wneud y gorau o dechnoleg cysylltedd diweddaraf y Cynllun Band Eang Gwledig.
Gall trigolion ymuno i dderbyn Talebau Band Eang Gwledig er mwyn ariannu datrysiadau ar gyfer band eang araf neu lle nad oes band eang yn bodoli, gan ddod â chysylltedd digidol i leoliadau anghysbell.
.
Wi-Fi Fferm
Rydym wedi datblygu pecyn o gefnogaeth Wi-Fi er mwyn cysylltu’r fferm gyfan, o’r ffermdy i’r parlwr godro, gan gynorthwyo ffermwyr i wybod am y diweddaraf o ran technolegau fferm ac er mwyn i’w busnesau fedru rhedeg yn fwy effeithiol.
Holwch am ein pecynnau cysylltedd mewn ardaloedd gwledig trwy lanw’r ffurflen isod.