Yn ystod yr argyfwng Covid-19 sy’n gyfnod di-gynsail, roedd angen i wasanaeth Busnes Cymru ymateb ar frys i sicrhau bod y gefnogaeth oedd mawr ei angen yn parhau’n ddi-dor ar draws Cymru gyfan. Telemat sy’n darparu’r gefnogaeth TG ar gyfer y gwasanaeth a llwyddwyd i ddod o hyd i ddatrysiad oedd yn sicrhau bod:
- Staff Ledled Cymru yn medru gweithio o bell oddi fewn 24 awr
- Datblygwyd sgiliau staff i fedru cael mynediad i’r amrediad llawn o ddatrysiadau gweithio o bell oedd ar gael trwy ‘Microsoft 365’
- Parhad di-dor o gefnogaeth i’r gymuned fusnes gyda staff yn defnyddio ‘Microsoft Teams’ er mwyn cynnal cyfarfodydd cleient wyneb yn wyneb un i un
- Cyflwyno system ffôn VOIP i alluogi delio’n rhad ac o bell i alwadau cleientiaid
Cefnogwyd Antur Cymru, sy’n darparu cefnogaeth fusnes trwy gytundeb Busnes Cymru yng Nghanolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru, er mwyn i’w holl staff sef 80 o weithwyr fedru gweithio o bell oddi fewn i gyfnod o 24 awr o gyhoeddi’r cyfnod clo. Roedd hyn yn cynnwys y gallu i drafod y cyfrifon yn llawn gan sicrhau bod gweithgareddau allweddol megis anfonebu, olrhain llif arian a thalu cyflenwyr yn medru parhau.