Antur Cymru fel menter gymdeithasol
Menter gymdeithasol ydym ni a berchnogir gan gyfranddalwyr yn y gymuned. Nid ydym yn elwa’n unigol o’r buddsoddiad hwn ond yn hytrach wedi cytuno y dylai unrhyw arian dros ben gael ei ail-fuddsoddi yn y cwmni er mwyn cynnal y safonau uchel a gynigir gennym a hefyd mewn prosiectau i hyrwyddo ffyniant yn yr ardal.
Ein bwriadau yw cwrdd ag anghenion y busnesau a’r cymunedau yr ydym yn anelu ein gwasanaethau atynt.
Pan sefydlwyd y cwmni lluniwyd yr amcanion craidd canlynol er mwyn llywio gwaith Antur Cymru:
- Meithrin ac annog sefydlu busnesau a mudiadau
- Rhannu gwybodaeth a rhoi cyngor i fusnesau a mentrau
- Comisiynu arolygon ac astudiaethau ymchwil
- Gweithio gyda neu dod yn aelodau o gymdeithasau neu fudiadau sy’n gefnogol i’n nodau
Mae Antur Teifi yn Gymdeithas Gofrestredig dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014 (Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014) ac Awdurdod Ymarfer Ariannol yw’r awdurdod cofrestredig. Mae Antur Cymru yn masnachu o dan yr enw ‘Antur Cymru Enterprise’.
Rhaid i unrhyw newidiadau i reolau a llywodraethiant y mudiad dderbyn cymeradwyaeth y cyfranddalwyr naill ai yn y CCB neu mewn CCA.
Ni chaniateir i gyfranddalwyr na aelodau bwrdd gymryd difidend ariannol o weithgareddau’r cwmni.
Yn debyg iawn i’r Scarlets, mae cymuned wrth galon holl waith Antur Teifi. Rydym yn falch felly i gydweithio gyda Antur Teifi fel rhan o’n rhaglen ymgysylltu cymunedol wrth gefnogi busnesau.
– Scarlets