Adolygiadau busnes a chynllunio busnes
Gweithir â chleientiaid sy’n dymuno defnyddio ein tîm profiadol er mwyn clywed eu barn a derbyn cyngor ganddynt ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
I fusnesau sy’n dymuno tyfu, medrwn weithio â chleientiaid i greu llwyfan cadarn er mwyn iddynt dyfu eu busnesau, yn seiliedig ar ragolygon ariannol manwl a chynllun busnes sy’n dangos llwybr clir ymlaen.
Mae cleientiaid yn gweithio â’r tîm er mwyn adolygu eu sefyllfa gyfredol o ran masnachu a gosod targedau twf sy’n gyraeddadwy ac yn sicr gyda strategaethau clir a chynlluniau gweithredu manwl sy’n mynd i’r afael â heriau ariannol, heriau’n ymwneud â marchnata a heriau o ran adnoddau, yn fewnol ac yn allanol.
Dichonoldeb prosiect i fusnesau a chyllidwyr prosiect
Er mwyn sicrhau atebolrwydd o ran yr arian sy’n cael ei wario ar brosiectau rydym yn cefnogi busnesau a’r rheini sy’n cyllido prosiectau i edrych yn fanwl ar yr elw posib yn erbyn y weithgaredd prosiect arfaethedig.
Bydd ein tîm o ymgynghorwyr profiadol, arbenigwyr yn eu meysydd yn adolygu eich cynlluniau busnes, ceisiadau am nawdd a pholisïau gan ddarparu barn arbenigol annibynnol ar hyfywedd prosiectau.
Arbenigwyr yn y maes fydd yn ymdrin â’r amrywiol brosiectau, felly, er enghraifft, arbenigwr ariannol fydd yn ymgymryd â’r strategaeth ariannol, y marchnata gan ymgynghorydd marchnata, gwasanaeth o safon sy’n mynd y tu hwnt i gefnogaeth gyffredinol.
Exit and succession planning
A planned exit route is key to maximizing the recovery of monies invested sometimes over many years of trading and requires a strategic approach.
We will undertake an analysis of the current business in terms of trading, staff capacity, succession opportunity and future growth.
Working jointly with accountants we will create an action plan to exit, to maximize tax efficiency and financial value.
Fel rhan o’n hymdrechion parhaol i wella’r busnes, roedd Ciplun Menter Antur Cymru yn ymarfer da iawn i’w wneud. Fe agorodd fy llygaid i’r camau nesaf sydd eu hangen er mwyn adeiladu’r busnes.
– Apple Blossom Cleaning Services
Holwch ni am...
- Adolygiadau Busnes
- Adolygiadau Marchnata
- Cynllunio Busnes
- Rhagolygon Ariannol
- Ymgeisio am arian twf
Astudiaethau achos
Catalydd gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Prosiect ar y cyd yw Catalydd rhwng y Brifysgol a mudiadau partner…