Gweledigaeth Antur Cymru
Ein Gweledigaeth a'n cenhadaeth
ANTUR CYMRU: LLE WNAETHOM DDECHRAU
Ein Gweledigaeth a'n cenhadaeth
Cenhadaeth Antur Teifi
Bod o fudd i gymunedau Cymru trwy feithrin, annog a hyrwyddo sefydlu a rhedeg busnesau llwyddiannus yng Nghymru trwy, ymysg pethau eraill gynnig gwybodaeth sy’n gywir ac yn ddiduedd, cyngor a chefnogaeth ymarferol a hynny’n ddwyieithog.Gweledigaeth
Cadarnhau ein lle fel un o’r prif fentrau cymdeithasol arloesol, yn meithrin ac yn hyrwyddo twf gweithgarwch economaidd ar draws Cymru, gan rannu ein profiad er mwyn dylanwadu ar bolisi cyhoeddus.Gwerthoedd
- Gweithio’n gydweithredol er mwyn llwyddo yn ein nodau
- Cofleidio her
- Annog a chefnogi pobl i fod y gorau y medrant fod
- Cyflenwi gwasanaethau o ansawdd gyda gonestrwydd ac yn broffesiynol
- Model rôl o ran arferion busnes cyfrifol
- Gwrando ar a chynrychioli llais ein cymuned
- Gwneud diwylliant, iaith a chymunedau Cymru yn ganolog i’n gyflenwi
Cenhadaeth Telemat
Cyflenwi gwasanaeth TG cynhwysfawr, arbenigol a dwyieithog ar hyd a lled Cymru yn cynnwys datrysiadau caledwedd a meddalwedd, gan weithio’n barhaol i adnabod dulliau sy’n seiliedig ar TG er mwyn cefnogi busnesau a chymunedau.Gweledigaeth
I’n hadnabod fel y darparwr cefnogaeth TG arbenigol i fusnesau a chymunedau Cymru gan ddatblygu rhaglenni newydd ac arloesol ar gyfer technoleg gyfredol a thechnoleg sy’n dangos addewid.Gwerthoedd
- Annog a chefnogi pobl i fod y gorau y gallant fod
- Cyflenwi gwasanaeth o ansawdd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n hyblyg i anghenion y cwsmer
- Sicrhau cyfathrebu agored, gonest oddi fewn i’r tîm gyda chwsmeriaid
- Cyflenwi gwasanaeth sy’n gwbl ddwyieithog
- Gweithredu strwythurau codi tâl sy’n dryloyw heb unrhyw gostau cudd
- Defnyddio systemau rheoli o ansawdd er mwyn gyrru ansawdd y gwasanaeth, cysondeb a dibynadwyedd
ANTUR CYMRU: LLE WNAETHOM DDECHRAU
Dechreuodd Antur Cymru ei fywyd fel Antur Teifi a sefydlwyd ym 1979 i gynorthwyo i ddatblygu’r economi lleol yn Nyffryn Teifi.
Gweithiodd Antur Teifi i gefnogi busnesau lleol i dyfu, busnesau a oedd yn aml iawn yn rhai bach, gan annog dulliau arloesol gyda’r nod o ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc y rhanbarth. Mae nifer o’r busnesau a gefnogwyd yn ystod y dyddiau cynnar hynny, megis Golwg sef newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg a chwmni cyhoeddi, wedi mynd yn eu blaenau i ddod yn enwau cyfarwydd i ni. Ym 1997 lansiwyd Telemat, is-adain TG Antur er mwyn sicrhau bod busnesau’r ardal leol yn medru cael mynediad i ddarpariaeth TG newydd.
Ers y dyddiau cynnar hynny mae Antur Teifi wedi’i ail frandio yn Antur Cymru i adlewyrchu ei dwf a’r ffaith ei fod yn cyflwyno gwasanaethau ar draws Cymru gan ennill enw da am gyflenwi gwasanaethau lle mae gwerth credadwy yn bwysig. Mae ein henw da dros y blynyddoedd yn siarad cyfrolau ac mae ein hallbynnau’n cynnwys;
- Gosod WiFi mewn Trefi
- Buddsoddi mewn Mentrau
- Cychwyn a Chefnogi Busnesau
- Creu Swyddi
- Swyddi a Grëwyd o Raglenni Gwaith