Amodau Defnyddio
Darperir mynediad i a defnyddio’r safle hwn (‘www.anturcymru.org.uk’) gan Antur Cymru ac y mae’n amodol ar y termau canlynol:
- Wrth ddefnyddio www.anturcymru.org.uk rydych ynghlwm yn gyfreithiol gan y termau hyn a fydd mewn grym yn syth wrth i chi ddefnyddio www.anturcymru.org.uk am y tro cyntaf. Os nad ydych yn cytuno i fod ynghlwm yn gyfreithiol gan y termau canlynol peidiwch â myned na chwaith defnyddio www.anturcymru.org.uk.
- Gall Antur Cymru newid y termau hyn ar unrhyw adeg drwy bostio newidiadau ar-lein. Adolygwch y termau hyn yn gyson, os gwelwch chi fod yn dda, i sicrhau eich bod yn gwybod am unrhyw newidiadau a wneir gan www.anturcymru.org.uk. Mae eich defnydd parhaol o www.anturcymru.org.uk ar ôl i newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod ynghlwm yn gyfreithiol i’r termau hyn ar ôl eu diweddaru a/neu eu diwygio.
Defnyddio www.anturcymru.org.uk:
- Ni allwch gopïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawr-lwytho, postio, darlledu, trawsyrru neu ddefnyddio cynnwys www.anturcymru.org.uk mewn unrhyw ffordd heblaw at eich defnydd personol, anfasnachol chi eich hun. Rydych hefyd yn cytuno i beidio ag addasu, newid neu greu gwaith deilliadol o gynnwys www.anturcymru.org.uk heblaw at eich defnydd personol, anfasnachol chi eich hun. Mae angen hawl ysgrifenedig o flaen llaw, oddi wrth Antur Cymru, arnoch i ddefnyddio cynnwys www.anturcymru.org.uk.
- Rydych yn cytuno i ddefnyddio www.anturcymru.org.uk at ddibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn modd na sydd yn torri hawliau, cyfyngu na rhwystro defnydd a mwynhad unrhyw un arall o www.anturcymru.org.uk. Mae ymddygiad gwaharddedig yn cynnwys erlid neu achosi gofid neu peri drafferth i unrhyw berson, trosglwyddo cynnwys anweddus ac annymunol neu amharu ar lif naturiol deialog o fewn www.anturcymru.org.uk.
Diheuriadau a Chyfyngiad ar Atebolrwydd
Mae cynnwys www.anturcymru.org.uk, gan gynnwys yr wybodaeth, enwau, delweddau, lluniau, logos ac eiconau yn ymwneud neu’n perthyn i Antur Cymru ei gynnyrch a’i wasanaethau (neu i gynnyrch a gwasanaethau trydydd parti), yn cael ei ddarparu ar sylfaen “FEL AG Y MAE” ac “AR GAEL” heb wneud unrhyw fath o gynrychiolaeth na gwaranti (pa un ai wedi ei fynegi neu’n oblygedig gan y gyfraith), gan gynnwys y gwarantau goblygedig o ansawdd dderbyniol, addasrwydd ar gyfer bwriad penodol, heb drosedd, cyfasaddrwydd, diogelwch a chywirdeb.
- Ni fydd Antur Cymru yn gyfrifol am unrhyw ddifrod, gan gynnwys difrod uniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw ddifrod sy’n codi trwy ddefnyddio neu golli defnydd, data neu elw, pa un ai mewn cytundeb, esgeulustod neu unrhyw weithred gamweddus arall yn codi o neu mewn cysylltiad â defnyddio www.anturcymru.org.uk
- Nid yw Antur Cymru yn sicrhau fod gweithredoedd a gynhwysir yn www.anturcymru.org.uk yn ddi-dor neu heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod www.anturcymru.org.uk neu’r gweinyddydd sy’n ei wneud ar gael yn rhydd o firysau a bygiau.
Eiddo Deallusol
- Mae’r enwau, delweddau a’r logos sy’n ddynodedig gan Antur Cymru a’i gynorthwywyr neu drydydd parti a’u cynnyrch a’u gwasanaethau yn amodol i hawlfraint, hawliau dylunio a nod masnach Antur Cymru a/neu drydydd parti. Ni ddylid dadansoddi unrhyw beth yn y termau hyn fel cyflwyno trwy oblygiad, estopel, neu chwaith unrhyw drwydded neu hawl i ddefnyddio unrhyw nod masnach, patent, hawl dylunio neu hawlfraint Antur Cymru, neu unrhyw drydydd parti.
Cyfraniadau i www.anturcymru.org.uk
- Os gwahoddir chi i gyflwyno unrhyw gyfraniad i www.anturcymru.org.uk (gan gynnwys unrhyw destun, graffeg, fideo neu sain) rydych yn cytuno, trwy gyflwyno eich cyfraniad i adael i Antur Cymru gael hawl bythol, heb freindal, anghyfyngol, isdrwyddedadwy a thrwydded i ddefnyddio, atgynhyrchu, newid, addasu, cyhoeddi, cyfieithu, creu gweithiai dynwaredol ohono, dosbarthu ac ymarfer holl hawliau hawlfraint a chyhoeddusrwydd gyda pharch i’ch cyfraniad chi yn fyd-eang a/neu i ymgorffori eich cyfraniad mewn gweithiai eraill mewn cyfrwng a adnabyddir nawr neu a ddatblygir yn y tymor llawn o unrhyw hawliau sydd efallai’n bodoli yn eich cyfraniad chi, ac yn gyson gyda chyfyngiadau preifatrwydd a osodir yn Polisi Preifatrwdd Antur Cymru. Os nad ydych am roi’r hawl i Antur Cymru i gael yr hawliau a nodir uchod, peidiwch â chyflwyno eich cyfraniad i www.anturcymru.org.uk.
- Yn ychwanegol i baragraff 9, rydych, trwy gyflwyno eich cyfraniad i www.anturcymru.org.uk, yn:
10.1 yn gwarantu bod eich cyfraniad;
10.1.1 yn eiddo o’ch gwaith gwreiddiol chi eich hun a fod gennych yr hawl i’w gyflwyno i www.anturcymru.org.uk i’r holl bwrpasau a nodwyd uchod;
10.1.2 ddim yn ddifenwol; a
10.1.3 nad yw’n torri unrhyw gyfraith; ac yn
10.2 gwarantu Antur Cymru rhag pob cost gyfreithiol, difrod ac unrhyw gostau eraill efallai bydd yn digwydd o ganlyniad i chi’n torri’r warant uchod; ac yn
10.3 ildio unrhyw hawl moesol yn eich cyfraniad i bwrpas ei gyflwyno a’i gyhoeddi ar www.anturcymru.org.uk a’r pwrpasau a nodwyd uchod.
Rheolau mynediad i www.anturcymru.org.uk
- Rydych yn cytuno i ddefnyddio www.anturcymru.org.uk yn unol â’r rheolau canlynol:
Rhaid i gyfraniadau fod yn sifil a chwaethus
Nid yw defnydd sy’n aflonydd, difenwol, difrïol, bygythiol, niweidiol, anweddus, anghysegredig, tueddiad at ryw, yn sarhaus tuag at hil, neu unrhyw ddeunydd anghymeradwy arall yn dderbyniol;
Dim e-bost ‘jync’.
Cyffredinol
- Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y termau hyn a thermau penodol sy’n ymddangos rhywle arall ar www.anturcymru.org.uk (gan gynnwys rheolau lleol) fe fydd yr ail un mewn grym.
- Os yw unrhyw un o’r termau hyn yn cael eu penderfynu i fod yn anghyfreithlon, annilys neu fel arall yn anorfodadwy trwy resymau cyfreithiol unrhyw dalaith neu wlad y bwriedir i’r termau hyn fod yn effeithiol, hyd at ac o fewn yr awdurdod hynny y mae’r term hynny’n anghyfreithlon, annilys neu’n anorfodadwy, caiff ei dorri a’i ddileu o’r termau hyn a bydd y termau sydd ar ôl yn goroesi ac yn parhau mewn llawn grym ac effaith a pharhau i fod yn rhwymedig ac yn gymelladwy.
- Caiff y termau hyn eu Lywodraethu a’u dadansoddi yn unol â chyfraith Lloegr a Chymru.
Parc Busnes,
Aberarad,
Castellnewydd Emlyn,
Sir Gâr,
Cymru,
SA39 9DB