Cyfranddalwyr ac Amcanion
Dod yn Gyfranddaliwr
Gall unrhyw un sy’n hŷn na 16 oed ac yn gefnogol i amcanion Antur Cymru ac sy’n byw neu’n gweithio yn Nyffryn Teifi neu’r gymdogaeth oddi amgylch, wneud cais i fod yn gyfranddaliwr. Mae hawl gan aelod wrth dalu £1, gael un gyfran yn unig o’r mudiad. Mae Bwrdd Antur Cymru yn barod i ystyried pob cais.
Yn y CCB ym mis Medi mae’r cwmni’n adrodd ar ei weithgareddau am y flwyddyn ariannol flaenorol (Ebrill i Mawrth). Gall cyfranddalwyr sy’n mynychu’r cyfarfodydd hyn gael dylanwad ar gyfeiriad Antur Cymru i’r dyfodol.
Wrth ddod yn gyfranddaliwr mae’n rhoi’r cyfle i’r unigolyn gael ei enwebu yn aelod o fwrdd y mudiad.
Amcanion y Mudiad
Mae amcanion Antur Cymru (ers iddo gychwyn) fel a ganlyn:
- Meithrin ac annog sefydlu busnesau a mudiadau
- Gwybodaeth a chyngor i fusnesau a mentrau
- Comisiynu arolygon ac astudiaethau ymchwil
- Gweithio gyda a dod yn aelodau o gymdeithasau neu fudiadau sy’n gefnogol i’n nodau
- Gweithgareddau sy’n cyflenwi’r amcanion hyn a llesiant yr ardal yr ydym yn gweithio ynddi
Ffurflen gais Cyfranddaliwr
Cliciwch isod e mwyn lawrlwytho ffurflen gais i fod yn gyfranddaliwr...