Marchnata, y cyfryngau cymdeithasol ac ymgynghoriaeth gwerthu
Gall ein hymgynghorwyr marchnata profiadol eich cynorthwyo i fod y gorau yn y maes trwy ddatblygu a chyfathrebu’r hyn sy’n eich gwneud chi’n wahanol er mwyn i chi fedru codi uwchlaw’r rheini sy’n cystadlu yn eich erbyn.
Rydym hefyd yn cynnig cynllunio marchnata manwl ar lwyfannau ar lein ac oddi ar, a medrwn hyfforddi eich tîm mewnol i gynnal ymgyrchoedd hyrwyddo yn cynnwys mesur a rheoli gwerthiant mewn modd rhagweithiol. Rydym hefyd yn cynnig pecyn ymgynghorol arbenigol ar frandio a dylunio.
Medrwn eich cynorthwyo chi i..
- Adolygu eich gweithredoedd marchnata a gwerthu
- Creu strategaethau marchnata newydd a chalendrau hyrwyddo blynyddol
- Cynnal ymgyrchoedd ar lein a rhai oddi ar lein gan gynnwys y Cyfryngau Cymdeithasol
- Adolygu a rhoi cyngor ar eich CRM a’ch llwyfannau gwerthu
- Rhoi hyfforddiant i staff mewnol er mwyn diweddaru eu sgiliau yn defnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol, CRM a sgiliau cyflwyno
Cymorth arbenigol ar farchnata sector
Datblygu bwyd ac ymgynghoriaeth brand
Mae tîm arbenigol wrth law i weithio gyda busnesau sydd ar gychwyn, busnesau sydd eisoes yn bodoli neu gwmnïau bwyd sydd yn y camau cyntaf o’u datblygiad. Mae gennym brofiad o fynd â phrosiectau bwyd o’r cam cychwynnol, trwy’r profion bwyd, profi’r farchnad, datblygu’r brand i lansiad llawn ar y farchnad.
Mae ein harbenigwyr twristiaeth yn deall yr hyn sydd ei angen i ddatblygu cynnyrch o safon i ymwelwyr gyda synnwyr o le wrth galon y cyngor. Rydym wedi gweithio ar brosiectau niferus o Fwytai gydag ystafelloedd, Gwestai, llefydd i encilio iddynt yn y wlad i fodelau lletya amgen megis‘bunkhouses’.
Atyniad y Bathdy Brenhinol (Royal Mint Experience) yn atyniad newydd ac roedd ceisio adnabod y cyfleoedd y tu allan i’n cynulleidfa graidd yn bwysig i ni. Trwy weithio gyda’r tîm yn Antur Cymru ymgymerwyd â dadansoddiad cynhwysfawr o’r farchnad ac o ganlyniad i hynny crëwyd pecyn mewnwelediad gwych i’r busnes.
– David Stock, Pennaeth Atyniad y Bathdy Brenhinol (Royal Mint Experience)
Astudiaethau achos
Afon Mêl
Daeth ‘Afon Mêl Meadery’ sy’n rhan o Fferm Fêl Cei Newydd at…
Sustainable Site Power (SSP)
Daeth Sustainable Site Power (SSP) at Antur Cymru cyn iddo gychwyn gyda…
‘Babita’s Northern Indian Cuisine’
Busnes bwydydd arbenigol yw ‘Babita’s Northern Indian Cuisine’ sydd yn draddodiadol wedi…