Prosiect ar y cyd yw Catalydd rhwng y Brifysgol a mudiadau partner yn Iwerddon, yn cynnig cymorth busnes ar gyfer y sector bwyd a’r sector cynaliadwyedd. Mae Antur Cymru’n cynnig gwasanaeth ymgynghorol i adolygu busnes ar gyfer y prosiect Catalydd a’i gleientiaid, gwasanaeth sydd wedi parhau trwy gydol yr argyfwng COVID-19.
Gennym ni darparwyd:
- Adolygiadau un i un gyda chleientiaid y prosiect, yn yr achos hyn, cleientiaid Bwyd a Diod
- Cyngor manwl ar strategaethau busnes, cynllunio busnes a rhagolygon ariannol
- Cyngor ar werthu a marchnata
- Enwi brand a strategaeth frandio
- Creu briff brand i’r dylunwyr
- Cyngor technegol ar gynnyrch a deunydd pecynnu
Mae enghreifftau’n cynnwys gwneuthurwyr cacennau ‘artisan’ a oedd am adolygu ei gynllun busnes yng ngoleuni COVID-19, cwmni Bwydydd Egsotig a oedd am ail-werthuso eu busnes yn ystod y cyfnod clo gan arwain at greu model busnes newydd a chynhyrchwr bwydydd anifeiliaid mawr a dderbyniodd gefnogaeth gyda ail-greu brand a chefnogaeth gyda gwerthu a marchnata.