Polisi Iaith Gymraeg
Nod Antur Cymru yw dilyn arfer da o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac mae’r polisi hwn yn berthnasol i’n holl weithgareddau busnes. Pan gyflwynir polisïau, arferion neu fentrau sefydliadol newydd, byddwn yn sicrhau eu bod yn hwyluso ac yn hyrwyddo’r hyn yr ydym yn addo ei wneud yn y Polisi hwn.
Egwyddorion Ein Polisi Iaith Gymraeg
Rydym wedi mabwysiadu egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb. Bydd gan y ddwy iaith yr un statws a dilysrwydd.
Mae’r Polisi hwn yn nodi’r camau rydym yn eu cymryd i weithredu’r egwyddor honno yn ein gwaith.
Wrth ddelio â’n cleientiaid a chwsmeriaid eraill, rydym yn ceisio:
- Mabwysiadu’r un nodau a safonau proffesiynol wrth ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, lle bynnag y bo modd.
- Galluogi ein cwsmeriaid, lle bynnag y bo modd, i ddefnyddio’r Gymraeg mor rhydd â’r Saesneg wrth ddelio â ni, a sicrhau bod cleientiaid yn cael gwybod ymlaen llaw bod ganddynt ddewis iaith wrth geisio gwybodaeth a chyngor.
- Gwneud ein cleientiaid yn ymwybodol o’r angen i ystyried defnyddio’r Gymraeg yn y busnesau maen nhw’n eu sefydlu neu’n eu datblygu
Rydym yn cymryd yr ymrwymiad hwn o ddifrif, ac yn mabwysiadu dull rhagweithiol o ran dewis iaith yn ein gwasanaethau, lle bynnag y bo modd. Wrth gysylltu â chwsmeriaid, mae hyn yn golygu bod yn onest wrth gynnig dewis iaith, a gwneud ein gorau i’w gyflawni. Bydd hyn yn golygu ein bod yn cydgrynhoi’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gwaith o ddydd i ddydd.





