A allai eich tref chi elwa o wella’r berthynas gydag ymwelwyr? Efallai eich bod eisoes yn gweithredu opsiynau gwahanol o gyfathrebu â nhw e.e. pwyntiau gwybodaeth o amgylch y dref, trwy’r wefan neu golofn “beth sy’ ‘mlaen” yn y papur lleol. Ond tybed a ydych chi wedi ystyried cyflwyno Wi-Fi rhad ac am ddim trwy’r dref ar eu cyfer?
Ar y 25 a 26 Mawrth bu cynrychiolwyr o Antur Teifi yng Nghynhadledd Dyfodol y Stryd Fawr yn Nottingham. Yn gwmni i Eleri Lewis o Canta a Jude Boutle Pencampwr y Dref Llandrindod yr oedd Angharad Williams perchennog busnes ifanc o Lanbedr Pont Steffan.