Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Ein nod yw adeiladu sefydliad lle gall pawb gyflawni eu potensial.

Mae Antur Cymru wedi ymrwymo i adeiladu sefydliad sy’n gwneud defnydd llawn o’r talentau, y sgiliau, y profiad a’r gwahanol safbwyntiau diwylliannol sydd ar gael mewn cymdeithas aml-ethnig, a lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi. Rydym yn glynu wrth bolisi sy’n ein cefnogi yn ein hymdrechion i gyflawni amgylchedd gwaith lle mae pawb yn cael eu trin yn deg a chyda pharch.

Mae Rhwydwaith Hyrwyddwyr Amrywiaeth y cwmni yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith hwn drwy hwyluso amgylchedd gwaith cadarnhaol a darparu gwasanaethau i gleientiaid a staff fel ei gilydd. Mae Antur Cymru yn ceisio dod yn sefydliad enghreifftiol o ran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Rydym yn glir iawn ynglŷn â manteision busnes cael agwedd ragweithiol tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth. Fel sefydliad, credwn fod tynnu ar ystod eang o brofiadau yn cyfrannu syniadau a dulliau newydd. Mae hyn yn ei dro yn creu amgylchedd cynhwysol a chreadigol sy’n rhoi mantais gystadleuol i’r busnes.

Lawrlwythwch ein cyflwyniad PowerPoint sy’n amlinellu manteision cydnabod a nodi manteision cyflogi gweithlu amrywiol.