
Cymorth TG
Cefnogi Busnesau Cymru gyda Gwasanaethau TG a Chysylltedd Dwyieithog , ers 1997…
Mae Telemat yn adran o Antur Cymru, sy’n cefnogi busnesau ledled Cymru gyfan gyda chymorth TG dibynadwy, dwyieithog ac atebion arloesol. O gysylltedd di-dor i seiberddiogelwch cadarn, rydym yn eich helpu i aros yn gysylltiedig, yn gynhyrchiol ac yn ddiogel, lle bynnag yr ydych.
Mae Telemat hefyd yn arbenigo mewn:
- Diogelwch Fferm
- Technoleg Fferm Clyfar
- Cysylltedd Gwledig
- Gosodiadau Tref SMART
- Monitro ac Adrodd Data

“Gofalodd Telemat am y broses gyfan gan gynnwys cyngor ar y dechnoleg, cael mynediad at y gefnogaeth ariannol a gosod y dechnoleg heb drafferth”
Aled Rees, Trefere Fawr (Busnes Prosesu Llaeth a Grawn Organig)

Gwasanaethau TG Eraill
Cadw busnesau Cymru wedi’u cysylltu a’u diogelu, trwy atebion band eang (FTTC/FTTP), 4G/5G, Starlink, a VOIP.
Darparu caledwedd fel:
- Gweinyddion
- Penbyrddau
- Gliniaduron
- Perifferolion
- Seilwaith rhwydwaith.
Mae’r opsiynau meddalwedd yn cynnwys Office 365 a chymwysiadau hanfodol eraill, tra bod cynigion seiberddiogelwch yn cynnwys Hanfodion Seiber, gwrthfeirws, a waliau tân.
Mae Telemat hefyd yn cefnogi gyda gosodiadau clyweledol ac yn darparu cyngor a gwasanaethau ymgynghori i’ch helpu i lywio byd TG.
Symudwch ymlaen yn gyflymach, gyda’r gefnogaeth gywir…
Cymorth a Ariennir
Gallech fod yn gymwys i gael cymorth busnes wedi’i ariannu neu wedi’i ariannu’n rhannol drwy un o’n prosiectau parhaus.
Gwasanaethau â Thâl
Mae ein holl wasanaethau ar gael fel opsiynau masnachol i fusnesau nad ydynt yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Partneriaethau
Rydym yn eich croesawu i weithio gyda ni i gyflawni prosiectau cymorth busnes effeithiol ledled Cymru
Cwestiynau Cyffredin Cymorth TG
Cael atebion i’r cwestiynau a ofynnir i ni’n aml. Methu gweld yr hyn rydych chi’n chwilio amdano? Cysylltwch â thîm Telemat
Newyddion Diweddaraf a Diweddaraiadau
Ein blogau diweddaraf a chyhoeddiadau







