Cynhelir yr Uwchgynhadledd – a noddir gan Fenter Antur Cymru – yn y Quay Hotel & Spa, Deganwy ar ddydd Mawrth, 29ain o Dachwedd.
Ymysg y siaradwyr bydd cynrychiolwyr o Ysgol Fusnes Bangor; arbenigwyr y gyfraith Knox Commercial Solicitors, Bae Colwyn; y CDI (Careers Development Institute); Busnes Cymru; Parallel Care Solutions, o’r Wyddgrug; Gerallt Evans Metalcraft, Abergele; ac Alpine Travel, Llandudno.
Bydd neges fideo arbennig gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi yn cael ei ddangos.
Mi fydd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-Sparc, parc gwyddoniaeth Ynys Môn, yn trafod eco-systemau twf a’r cyfleodd i gael y gorau o sgiliau a thalent i’r dyfodol.
Meddai “Rydwi’n teimlo’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn a’r cyfle i rannu’r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud, yn enwedig i son am ein rhaglen Lefel Nesaf sydd erbyn hyn yn gweithio gyda’r ail garfan ac yn hybu cwmnïau arloesol i dyfu’n gynt ac i fynd ymhellach.
“Mae’n rhyfeddol i weld yr ystod o dalent a syniadau sydd yma yng Ngogledd Cymru ac rydwi’n edrych ymlaen yn eiddgar i glywed gan eraill yn yr uwchgynhadledd.”
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad tebyg yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar – lle bu’r sylw ar y pryderon am allfudiad pobl ifanc o gefn gwlad Cymru i chwilio am gyfleoedd gwaith mewn rhannau eraill o’r DU – mi fydd y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar botensial twf trwy arloesi ac arallgyfeirio a chreu amgylchedd cynaliadwy i entrepreneuriaid, busnesau sy’n cychwyn a mentrau cymdeithasol.
Yn ôl Bronwen Raine, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Antur Cymru, sydd a’i phencadlys yng Nghastellnewydd Emlyn, mae disgwyl i hyd at 80 o bobl fynychu’r digwyddiad.
“Yn dilyn llwyddiant yr uwchgynhadledd yn y De, rydwi’n falch iawn i fedru cynnal y digwyddiad hwn yn y Gogledd. Mae’n edrych yn debyg y bydd hwn hefyd yn mynd i’r afael â materion economaidd a chymdeithasol pwysig iawn sy’n effeithio ar bobl ar draws y wlad,” meddai.
“Byddwn yn dod â phobl amlwg yn eu meysydd ynghyd i roi ychydig o oleuni ar rai o’r ffyrdd y gallwn – mewn partneriaeth – gael effaith bositif yn dilyn y pandemig.”
Ychwanegodd Bronwen: “Mae presenoldeb nifer o fusnesau arloesol yn y digwyddiad yn sicr o greu tipyn o ddiddordeb ymysg y gynulleidfa ac rydwi’n siwr bydd y sesiwn Holi ac Ateb a’r adborth yn ganolog i’n hymdrechion wrth symud ymlaen.”
“Rydym yn edrych ymlaen at yr uwchgynadledd ac i weld y canlyniadau a’r casgliadau a ddaw ohoni.”
Am ragor o wybodaeth ar Fenter Antur Cymru ewch i: www.anturcymru.org.uk.
Tocynnau: