Defnyddio eu dychymyg a’u gallu a datblygu atebion gwell i’r heriau presennol. Dyna sy’n rhaid i’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru ei wneud i greu gwerth i’r economi.

Uwchgynhadledd Entrepreneuriaeth a Gyrfaoedd
Uwchgynhadledd Entrepreneuriaeth a Gyrfaoedd

Wrth ymateb i’r pryderon parthed pobol ifanc yn symud o gefen gwlad Cymru i chwilio am gyfleoedd gwaith yn ardaloedd eraill o’r DU, bu’r Athro Emeritws Andy Penaluna o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn trafod y data a gasglwyd o’r cyfrifiad diweddaraf sy’n dangos y cynnydd yn y nifer sy’n gadael ardaloedd megis Ceredigion – ardal sydd wedi gweld cwymp o 28% yn y rhai hynny rhwng 15-19 blwydd oed ers 2011.

Bu’r Athro Penaluna yn cyfarch dros 80 o arweinwyr polisi (ar draws nifer o sectorau) a phobl ifanc, mewn cynhadledd Entrepreneuriaeth a Gyrfaoedd a drefnwyd gan Fenter Antur Cymru, yn Yr Egin, Caerfyrddin.

Ymysg y siaradwyr oedd Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence; Llinos Price, Syniadau Mawr Cymru; Llywydd a Chadeirydd y CDI (Careers Development Institute) Carolyn Parry, a Scott James, sylfaenydd Coaltown Coffee Roasters yn Rhydaman.

Cadeiriwyd y sesiwn trafod gan Cefin Campbell, AS Canolbarth a Gorllewin Cymru. Rhai o’r pynciau a drafodwyd oedd yr argyfwng recriwtio cenedlaethol a sut i helpu pobol ifanc i baratoi ar gyfer bywyd gwaith. Darlledwyd neges arbennig oddi wrth y Gweinidog Economi, Vaughan Gething AS, a ddywedai:

“Does dim rhaid i chi adael i lwyddo. Gallwch wneud dyfodol i’ch hun yma yng Nghymru. O ran sgiliau a chyflogaeth, mae’r Warant i Bobol Ifanc yn rhaglen uchelgeisiol sy’n anelu at roi cymorth i bawb o dan 25 mlwydd oed i gael mynediad at addysg, hyfforddiant, gwaith neu hunan-gyflogaeth.

“Yr her yw sicrhau cymunedau cytbwys lle mae gan bobol ifanc gyfleoedd go iawn i gynllunio ar gyfer byw bywyd llwyddiannus yma yng Nghymru.”

Nododd Emma Benger, Rheolwr Hŷn Cyflawni Rhaglenni Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru, yr heriau yn ogystal â’r gefnogaeth sydd ar gael i bobol ifanc sy’n pryderu am y camau nesaf i addysg, hyfforddiant a gwaith.

Nododd yn arbennig y bwlch cynyddol o ran lefelau cymwysterau rhwng Cymru a gweddill y DU.  Dywedodd bod targedau’r dyfodol yn cynnwys sicrhau bod 90% o bobol ifanc 16-24 oed mewn addysg, hyfforddiant neu waith; bod angen dileu’r bwlch cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd a lleihau canran yr oedolion o oed gweithio heb gymwysterau ym mhob awdurdod lleol i 5% neu’n îs erbyn 2050.

Cafwyd cyflwyniad gan Bronwen Raine, Prif Weithredwr Menter Antur Cymru ar y gwaith hanfodol mae’r cwmni yn ei wneud yn yr ardaloedd gwledig – yn cynnwys darparu rhaglen Entrepreneuriaeth Syniadau Mawr Cymru – a diolchodd i bawb am eu presenoldeb.

 “Fe wnaeth yr Uwchgynadledd hon dynnu ffigurau amlwg o feysydd addysg, gwleidyddiaeth a diwydiant at ei gilydd i drafod themâu pwysig,” meddai.

“Roedd yn gyfle i ddangos yr amrywiaeth o arweiniad a chyngor sydd ar gael i bobol ifanc ac hefyd yn gyfle i drafod beth sydd angen ei wneud i gadw’r talent yng Nghymru, nawr ac i’r dyfodol. Rwy’n credu ein bod wedi llwyddo i wneud hynny ac ry’ ni’n edrych ymlaen at drefnu rhagor o ddigwyddiadau cyn bo hir.”

Am ragor o wybodaeth am Fenter Antur Cymru ewch i www.anturcymru.org.uk.

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction