Yma rydym yn archwilio 6 maes allweddol i chi eu hadolygu ac i ail-danio eich gweithgareddau marchnata yn ogystal a chynnig y cyfle i chi ail-ffocysu eich gweithgaredd.
Mae argyfwng Covid-19 wedi newid y ffordd y mae defnyddwyr a busnesau yn gweithredu ac rydym bellach yn cael ein hunain mewn cyfnod o ‘normal newydd’. Mae’r angen i ganolbwyntio ar farchnata yn bwysicach nag erioed.
- Mae eich busnes dal ar agor felly gwedwch wrth bawb!
Mae rhoi tawelwch meddwl i’ch cwsmeriaid ei bod hi dal yn bosib iddynt brynu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau, a hynny heb unrhyw newid yn yr ansawdd oherwydd y pandemig, yn fan cychwyn allweddol.
- Sicrhewch fod eich cyfathrebiadau mewn gêr ac yn barod i fynd a rhannwch negeseuon cysurlon sy’n tawelu’r meddwl.
- Anfonwch ddiweddariadau e-bost a dechreuwch ystyried sut rydych chi’n cyfathrebu â’ch cwsmeriaid.
- Cadwch eich sianeli cyfryngau cymdeithasol yn gyfredol a phostiwch yn rheolaidd.
- Wrth anfon anfonebau, datganiadau o gyfrifon a chyfathrebiadau eraill cofiwch gynnwys diweddariadau, ffurflenni adborth a chynigion.
- Adolygwch eich negeseuon marchnata.
Nid oes amser gwell i adolygu’r neges am eich brand a’r cynnwys sydd ar eich sianeli cyfathrebu marchnata.
- Adnabyddwch y bylchau a gwnewch y mwyaf o’ch negeseuon a’ch cyfathrebiadau mewn mannau lle gall cwsmeriaid cyfredol a darpar gwsmeriaid ddod o hyd i chi.
- Dysgwch o’r hyn sydd wedi llwyddo yn y gorffennol. Nawr yw’r amser i roi mesurau Enillion ar Fuddsoddiad mewn lle.
- Meddyliwch am yr hyn a allai weithio yn ystod ac ar ôl Covid. Siaradwch â’ch cwsmeriaid cyfredol ac ymchwiliwch i farchnadoedd newydd
- Byddwch yn ymwybodol o’r hyn mae eich cystadleuwyr yn eu gwneud gan sicrhau eich safle yn y farchnad. Sicrhewch gyfleoedd i oroesi a thyfu yn y dyfodol.
- Nid nawr yw’r amser i gadw at y status quo. Gwnewch rywbeth yn wahanol i’ch cystadleuwyr a gwnewch yn siwr mai chi yw’r busnes sy’n cynnig yr atebion yn y ‘normal newydd’.
- Gofynnwch i’ch cwsmeriaid a’ch tîm beth sy’n gwneud eich busnes chi yn wahanol i’ch cystadleuwyr. Rhannwch y neges. Eich Pwynt Gwerthu Unigryw (USP) yw eich prif bennawd.
- Peidiwch rannu ‘hen newyddion’ a chael eich gweld yn gwerthu o hyd ac o hyd. Gofynnwch farn ar eich cynnyrch a gwasanaethau a phethau eraill sydd o bwys i’ch cwsmeriaid.
- Gwedwch wrth eich cwsmeriaid am eich cymwysterau busnes meddalach fel polisïau busnes cynaliadwy.
- Adolygwch eich platfformau marchnata ar-lein.
Ni fu erioed amser gwell i adolygu eich presenoldeb ar-lein.
- Adolygwch destun a geiriau allweddol eich gwefan a gwnewch iddynt weithio’n galetach ar y llwyfannau chwilota.
- Defnyddiwch eich geiriau allweddol i adolygu sut i gael y gorau o’ch llwyfannau chwilota a sut mae dod o hyd i chi ar-lein.
- Adolygwch y ffordd mae eich gwefan yn gweithio ar lwyfannau symudol. Mae ymchwil diweddar yn dangos bod 58% o ymweliadau â gwefannau yn 2019 wedi digwydd ar ddyfeisiau symudol
- Crëwch gynnwys gwerthfawr a gafaelgar megis gweminarau, vlogs, asudiaethau achos, negeseuon gan westeion, cynnwys feiral a ‘canllawiau sut-i’.
- Daliwch ati i harneisio pŵer y Cyfryngau Cymdeithasol.
Ymgorfforwch y Cyfryngau Cymdeithasol yn rhan o’ch cymysgedd marchnata fel ffordd gost-effeithiol i drosglwyddo’ch negeseuon unigryw i gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid a hynny mewn modd amserol a chyflym.
Dyma rai camau i’w harchwilio:
- Crëwch gynnwys gafaelgar am eich cynnyrch.
- Ystyriwch dalu i roi hwb i’ch cynnyrch (paid boosts) a hysbysebion wedi eu noddi.
- Postiwch gynnwys diddorol yn rheolaidd.
- Ystyriwch ffyrdd o gael adborth megis cystadlaethau ar-lein.
- Ystyriwch gynigion arbennig, cynnig rhagflas o’ch cynnyrch neu fuddion o werth ychwanegol eraill.
- Byddwch yn fwy creadigol gyda’ch cynigion a’ch cyfathrebu o’i gymharu â’ch cystadleuwyr.
- Trafodwch syniadau gyda’ch tîm, Bydd ganddynt syniadau da felly rhowch gyfle iddynt i ymbweru wrth gyfrannu.
- Buddsoddwch amser ac arian ar gyfer defnyddio delweddau a fideos gafaelgar sy’n tynnu sylw.
- Ymgysylltwch â’ch cwsmeriaid trwy ddefnyddio llwyfannau rhithwir megis cynnal cyfarfodydd ar Microsoft Teams a Zoom.
- E-bostiwch arolwg neu godwch y ffôn a gofynnwch pam maen nhw’n prynu eich cynnyrch/gwasanaeth chi.
- Defnyddiwch adborth yn gyson i fireinio eich cynnig a’ch negeseuon.
- Fe allwch fod yn siŵr bydd y berthynas rithwir yn disodli’r berthynas wyneb-yn-wyneb mewn sawl achos.
Adolygwch eich systemau TG a gwnewch yn siwr bod gennych y systemau cywir mewn lle. Dyma rai pethau i’w hystyried:
- Adolygwch eich datrysiadau gweithio-o-bell a sicrhewch bod gan eich staff yr hyn sydd ei angen i yrru gwerthiannau a marchnata rhithwir i barhau â thwf busnes.
- Sicrhewch bod eich cysylltiad Di-Wifr yn iawn a defnyddiwch yr adnodd i gasglu data am gwsmeriaid ac arferion prynu. Mireiniwch eich cynnig a’ch cyfathrebiadau marchnata yn rheolaidd.
- Gwnewch yn siwr bod y tîm rhithwir cywir â’r gallu i werthu ar gael ar lwyfannau megis Microsoft Teams, Zoom a Skype.
- Sicrhewch eich bod yn ymgyfarwyddo â’r cyfleoedd y mae systemau TG fel Microsoft Office 365 yn eu cynnig er mwyn symleiddio’ch gweithgareddau marchnata ac ennill cyfleoedd busnes rhithwir.
- Adolygwch yr hyn sydd gan feddalwedd megis Mailchimp, Eventbrite a meddalwedd marchnata eraill eu cynnig a sut y gallant wneud eich cyfathrebiadau yn haws, yn gyson ac yn fesuradwy.
Nodyn i orffen:
Pan fyddwch wedi adolygu, gwrando ac ail-ffocysu – gwaeddwch o’r entrychion!
A oes angen help arnoch gyda’ch strategaeth farchnata a’ch cyfathrebu er mwyn mireinio neu ailddyfeisio eich platfformau cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein?
Am wybodaeth bellach dilynwch y ddolen isod:
https://anturcymru.org.uk/consultancy-services/
Neu fe allwch ddarganfod mwy am ein Gwasanaethau Marchnata ar gyfer busnesau trwy gael sgwrs â Dai Nicholas, ein Rheolwr Marchnata ar 07736542280