Antur Cymru’n ehangu ei gynllun cefnogaeth busnes dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn dilyn llwyddiant y flwyddyn gyntaf.

Local Business Support shop front in Newcastle Emlyn

Antur Cymru’n ehangu ei gynllun cefnogaeth busnes dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn dilyn llwyddiant y flwyddyn gyntaf.

“Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi – yn arbennig yr awdurdodau lleol, sef Ceredigion a Sir Gâr – ry’ ni’n hynod o gyffrous i fedru cydweithio â phawb i gefnogi unrhywun â syniad busnes i’w wireddu.

“Byddwn hefyd yn gweithio yn y gymuned i gefnogi busnesau sy’n bodoli eisoes, a gyda’r posibilrwydd o agor gofodau mewn rhagor o leliadau yn y dyfodol, bydd y canlyniadau’n siwr o gael effaith gadarnhaol hir-dymor ar economi leol yr ardaloedd hynny.”

Am fwy o wybodaeth am Antur Cymru, ewch Bu llwyddiant prosiect manwerthu siopau dros dro Antur Cymru yn hwb i’r cwmni i ymestyn y cynllun ac agor gofod arall yng Nghastellnewydd Emlyn.

Ac mae menter ddiweddaraf y cwmni – Cymorth Busnes Lleol / Local Business Support – â chynlluniau ar y gweill i agor gofod mewn lleoliad arall yn 2024. (Mae disgwyl i Aberteifi agor ym mis Rhagfyr).

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU a’i gefnogi gan y cynllun Ffyniant Bro drwy Gynghorau Sir Ceredigion a Sir Gâr, mae’r cynllun hefyd yn cynnwys cymorth a chyngor i fusnesau newydd, entrepreneuriaid a masnachwyr annibynnol ar draws y rhanbarth gan dîm o ymgynghorwyr a mentoriaid profiadol.

Yn y cyfamser mae’r gofodau masnachu prawf yn cynnig cyfle i bobl ddatblygu syniadau, treialu cynnyrch a chreu cronfa o gwsmeriaid tra’n derbyn cyngor ar sut i sefydlu eu mentrau masnachol.

 Yn ôl Julie Morgan, Rheolwr y Prosiect, bydd mwy o gyfle i ganolbwyntio ar leihau carbon, lleihau gwastraff, gwella cynaliadwyedd, digideiddio a mwy.

“Mae’r gofod diweddaraf eisoes ar agor a nifer o fasnachwyr arfaethedig, cwsmeriaid a’r gymuned leol wedi dangos cryn dipyn o ddiddordeb,” meddai Julie.

Julie Morgan and Cllr Hazel Evans cutting the ribbon of the Trading Space at the Official Launch.

“Cynhaliwyd y cynllun peilot yn Aberystwyth llynedd ond eleni, yng Nghastellnewydd Emlyn, mae’r sylfaen a’r hyn a ddysgwyd o’r cynllun peilot yn golygu ein bod wedi medru bwrw ati’n syth.

“Mae busnesau ar y safle eisoes yn gwerthu’u cynnyrch sy’n cynnwys ffasiwn unigryw, anrhegion â wnaed yn lleol a blodau.  Bydd y gwasanaeth ehangach o gefnogaeth busnes a hyfforddiant ar gael i helpu busnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes a hynny ar draws y ddwy sir.”

Nodweddion eraill o’r prosiect hwn – a elwid gynt yn Sgiliau Newydd Dechrau Newydd – yw’r cymhorthfeydd galw heibio, hyfforddiant a’r cyfleoedd rhwydweithio sy’n rhedeg tan fis Rhagfyr nesaf.  

Yn ôl Bronwen Raine, Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Cymru, mae’r sefydliad wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o fusnesau yn gallu cael mynediad at y cymorth personol a gynigir gan y prosiect trwy gynyddu nifer o safleoedd y siopau a thrwy ymestyn cymhwysedd i gynnwys busnesau sydd wedi cychwyn o unrhyw oedran a maint.

“Gyda’r gofodau yn Aberystwyth a Chastellnewydd Emlyn ynghyd â’r un newydd gobeithiwn gyhoeddi’n fuan, yn golygu ein bod ni’n darparu darpariaeth leol ar garreg y drws ar draws nifer ehangach o drefi,” meddai.”


Am wybodaeth bellach am y Cymorth Busnes Lleol, neu i ddatgan eich diddordeb i fasnachu yn un o’r gofodau masnachu, cysylltwch â ni ar: [email protected]

UK Gov, SPF and County Council Logos for Ceredigion and Carmarthenshire. Including Project and Antur Cymru Logos.
What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2025. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction