MASNACHWYR yn mwynhau llwyddiant dechrau busnes gyda chefnogaeth Menter Antur Cymru.

Cllr Clive Davies and Project Manager Julie Morgan officially cutting the ribbon to the Cardigan Trading Space
Cllr Clive Davies / Julie Morgan

Mae entrepreneuriaid, gwneuthurwyr a chynhyrchwyr annibynnol yng ngorllewin Cymru yn elwa o gynllun Cymorth Busnes Lleol / Local Business Support programme Antur Cymru.

Yn ddiweddar agorwyd uned manwerthu newydd ar y stryd fawr yn Aberteifi a hynny’n dilyn y ddau a agorwyd eisoes yn Aberystwyth a Chastellnewydd Emlyn.

Loren Nash yw perchennog Under the Laurel, cwmni gemwaith, ategolion a nwyddau i’r cartref a ysbrydolwyd gan natur.  Lansiwyd y cwmni yn ystod y pandemig a bellach mae wedi ymgartrefu yn y siop brysur newydd.

Dechreuodd greu eitemau yn ystod y cyfnod clo er mwyn gwella ei hiechyd meddwl. Arweiniodd y galw am ei chynnyrch at ennill cwsmeriaid ar draws yr ardal ac ar-lein. Felly, penderfynodd gymryd cam ymhellach ac ymuno â’r cynllun Cymorth Busnes Lleol.

Under The Laurel

“Dechreuais weithio eitemau i’n hunan ond ar ôl cael ceisiadau gan ffrindiau a theulu penderfynias agor siop ar Etsy a dyna pryd dechreuodd y fusnes go iawn” meddai. 

“Wrth i’r cwsmeriaid gynyddu roedd angen lle addas ar gyfer creu a gwerthu a dyna pryd camodd Antur Cymru i’r adwy i helpu.  Maent wedi bod mor gefnogol wrth rannu gwybodaeth a rhoi cyngor amhrisiadwy.

“Maent hefyd wedi helpu gyda’r cyfryngau cymdeithasol ac wedi helpu fi a’r masnachwyr eraill ddarganfod y grantiau sydd ar gael a sut i ymgeisio amdanynt. Maent hyd yn oed wedi dangos sut i greu arddangosfeydd i’r byrddau a’r ffenestri.”

Ychwanegodd Loren: “Mae’r ymateb ers agor y siop wedi bod yn anhygoel. Mae’r bobl leol wedi bod tu hwnt o gefnogol gan ddweud pa mor braf yw gweld busnesau bach yn cael cyfle i arddangos eu cynnyrch.

“Gydag amser byddwn wrth fy modd yn agor siop fy hun, gyda fy mhartner, ar y stryd fawr yn ogystal â chynnig gweithdai celf am ddim a darparu’r holl gyflenwadau angenrheidiol mewn gofod croesawgar a hygyrch i bawb – dyna’r freuddwyd ond am nawr, dwi’n hapus iawn i fod yma ac yn edrych ymlaen i’r dyfodol.”

Funky Fairy

Ymysg y busnesau newydd eraill mae The Funky Fairy, cwmni gemwaith a chylchau-allweddi. Mae’r artistiaid Titus Sharp ac Andrea Edwards hefyd yn elwa o bresenoldeb ar y stryd fawr gyda’u mentrau.

Amaze Me 3D yw menter Andrea.  “Dechreuodd y fenter fel hobi yn gweithio anrhegion i ffrindiau a theulu ond fe ddatblygodd yn fwy o beth rai misoedd yn ôl,” meddai Andrea.

“Rwy’n creu modelau 3D mas o ddeunydd o’r enw PLA (Polyactic Acid) sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ac wedi ei wneud o ddeunydd naturiol fel startsh corn a chansen siwgwr.  Mae’r deinosoriaid a dreigiau wedi bod yn arbennig o boblogaidd gyda’r siopwyr.  Mae bod yn y siop wedi dangos gwir botensial fy musnes.”

Amaze Me 3D

Tonnau Glas yw menter yr artist talentog Titus Sharp ac mae’r galw am ei ddarnau celf gwydr unigryw yn defnyddio tywod eisoes wedi arwain at gomisiynau.

Yn gyn-weithiwr gofal iechyd mae’n falch iawn ei fod yn rhan o’r grŵp a meddai:  “Dwi yn y siop cyn gymaint â phosib ac yn dysgu mwy am fusnes a gwerthu fy ngwaith, sydd hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“Dwi wedi gwerthu tipyn ac wedi derbyn nifer o gomisiynau.  Mae bod yn rhan o’r gymuned hon yn rhoi mwy o sylw i Donnau Glas.  Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn.”

Tonnauglas Sea Glass Crafts Stall
Tonnauglas

Mae Andrea Stinton a’i chwmni newydd, The Funky Fairy, yn cyfuno’r ddawn o greu gemwaith a chylchau-allweddi allan o fetalau gwydr môr a gleiniau chrisial gyda chreu dalwyr breuddwydion a dalwyr haul wedi’u gwehyddu o blu, crisialau naturiol a gwydr crisial.

Wrth gytuno â Titus dywedodd ei bod hithau hefyd wedi cael yr un profiad.

“Yn dilyn y galw am fy ngwaith gan deulu a ffrindiau, mae’r hyn ddechreuodd fel hobi, ac yn mwynhau gwneud gyda fy merch, wedi datblygu mewn i greu ar gyfer ffeiriau crefft a mwy,” meddai Andrea.

“Wnaeth Antur Cymru awgrymu y byddai hyn yn gam da i’w gymryd ac o’n nhw’n iawn.   Fy mreuddwyd nawr yw agor siop fy hun a, diolch i Antur Cymru, dwi bellach ar y ffordd.”

Wedi ei ariannu gan Lwyodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Bro, ynghyd â Chyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Ceredigion, mae’r prosiect hefyd yn cynnig cyngor i fusnesau newydd ar draws y rhanbarth wedi ei ddarparu gan dïm o ymgynghorwyr a mentoriaid profiadol.

Mae’r ddwy siop yng Nghastellnewydd Emlyn ac Aberystwyth wedi mwynhau llwyddiant o ran nifer yr ymwelwyr ac o ran y gefnogaeth yn lleol.  Yn ôl Rheolwr y Prosiect, Julie Morgan, mae hyn i’w weld yn Aberteifi hefyd.

“Ers i’r drysau agor mae’r siop wedi bod yn brysur.   Mae’r dref wedi dangos ei chefnogaeth ac wedi rhoi hwb go iawn i’r busnesau bach,” meddai.

“Mae’r gwersi a ddysgwyd ers agor y ddwy siop flaenorol wedi rhoi sylfaen gadarn i ni adeiladu arni yma.  Gyda chynlluniau ar droed i agor rhagor o siopau dros dro eleni, ry’ ni’n hyderus gallwn gynnig mwy o gyfleoedd i entrepreneuriaid yng ngorllewin Cymru yn y dyfodol.”

Am fwy o wybodaeth am Antur Cymru, ewch i’r wefan www.anturcymru.org.uk a dilynwch ar y cyfryngau cymdeithasol@AnturCymruWales. Neu, ffoniwch 01239 710238 neu ebostio [email protected] .

Welsh SPF Logos
What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2024. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction