Mae Gofod Masnachu Antur Cymru yn Aberystwyth wedi symud i’r hen swyddfa bost ar Stryd y Porth Mawr ac erbyn hyn yn gartref i hyd at 20 o fasnachwyr annibynnol.
Yn rhan o raglen arloesol Sgiliau Newydd Dechrau Newydd – menter gan Lywodraeth y DU wedi’i hariannu trwy’r gronfa Adfywiad Cymunedol dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion – mae’r safle eisoes wedi profi’n boblogaidd gyda chwsmeriaid. Yn dilyn arddangosfa diweddar i ddathlu cynnydd y fenter yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd marchnad Nadolig brysur iawn yno dros y penwythnos.
Gyda chyllid pellach yn 2023 mae Rheolwr y Prosiect, Julie Morgan, yn hyderus y bydd y safle’n parhau i weithredu’n ganolfan ar gyfer nifer o grefftwyr yn cynnwys Hannah Jones Earrings, Queer Little Shop ar gyfer nwyddau LHDTC+, Ray of Light, Becws Welsh Bakes, Wishing Well Crystals, Otter and Oak Illustration, a Carys Doyle Ceramics.
Mae hi’n falch iawn o’r tîm a’r ffordd y gwnaethant godi hyder masnachwyr yn y fenter trwy gynnal sesiynau hyfforddi ac arweiniad un-am-un, trefnu cyflwyniadau a gweithdai ysgogi a hwyluso 31 o gwmnïau newydd cynaliadwy, moesegol yn y siop.
“Yn bwysicach na dim ry’ ni wedi codi hyder yr entrepreneuriaid y gwneuthurwyr a’r cynhyrchwyr a rhoi platfform iddynt fedru arddangos eu gallu,” meddai Julie.
“Roeddem yno i osod y sylfaen ac mae wedi bod yn galonogol iawn i weld cymaint ohonyn nhw’n adeiladu ar y sylfaen honno trwy godi eu proffilau eu hunain tra, ar yr un pryd, gynnig rhywle newydd i ymweld ag ef i bobl Aberystwyth.
“Mae’r fenter wedi derbyn cryn dipyn o adborth cadarnhaol ac wedi dod â bywyd newydd i’r rhan hon o’r dref.”
Mae’r croeso y derbyniodd y prosiect wedi creu argraff ar ardaloedd eraill o Gymru a’r gobaith yw ei gyflwyno i siroedd eraill yn y dyfodol.
“Ry ni wedi dysgu llawer eleni a bydd hyn yn cryfhau ein gallu i gynnig datrysiadau a gwybodaeth ar gyfer mentrau tebyg mewn rhannau eraill o Gymru yn ystod 2023,” meddai Julie.
“Mae mân-werthwyr wedi eu cael hi’n anodd a nifer fawr wedi gorfod cau. Ond, ry’ ni wedi dangos, trwy gydweithio a meddwl yn greadigol, fod yna ddyfodol i’r stryd fawr.
“Mae hyn yn bwysicach nag erioed yn yr hinsawdd economeg sydd ohoni ac mae’n dangos pa mor hanfodol yw hi i gefnogi busnesau bach a busnesau newydd trwy roi cymorth ariannol a chefnogaeth iddynt. Fel ry’ ni eisoes wedi gweld, maent yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o adfywio trefi fel Aberystwyth.”
Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan www.anturcymru.org.uk/entrepreneurship/new-skills-new-start neu ebostiwch [email protected].
Mae hon yn fenter gan Lywodraeth y DU wedi’i hariannu trwy’r gronfa Adfywiad Cymunedol y DU ar gyfer 2021/22. Ei nod yw cefnogi’r pobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ar draws y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n canolbwyntio ar sgiliau, cymuned a lle, busnesau lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund- prospectus.