Diwrnod gorau’r mis - diwrnod cyflog. Rydym i gyd yn cymryd yn ganiataol y gallwn ni fynd i’n cyfrifon banc ar y diwrnod hwnnw bob mis gan wybod y bydd ein cyflog yno i roi gwên ar ein hwynebau. Ond sut y mae’r swm cywir yn cyrraedd y lle cywir ar yr adeg gywir? Y gyflogres sy’n gyfrifol am hynny. Mae Antur Teifi wedi bod yn darparu gwasanaeth allanol ar gyfer ymdrin â’r gyflogres ar ran busnesau bach i ganolig eu maint ers 2002.