Wedi 35 mlynedd mewn busnes mae cyflenwr cynnyrch hyrwyddo sy’n masnachu’n rhyngwladol wedi ehangu ei weithrediadau tra’n targedu sero net.

Llwyddodd Preseli Ltd, sydd wedi’i leoli’n Y Fflint, i leihau ei ôl troed carbon ar ôl derbyn grant gan y Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon.

Darperir y Gronfa gan Fenter Antur Cymru gyda chefnogaeth Pathway to Carbon Zero Ltd a Litegreen Ltd mewn cydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint.

Yn gweithredu fel masnachwr mewnforio’n unig a chyflenwr nwyddau anrhegion a chynnyrch hyrwyddo, cefnogwyd Preseli gan Pathway to Carbon Zero a Litegreen Ltd i ddod o hyd i’r ffordd fwyaf eco-gyfeillgar i ddatgaroboneiddio ei bencadlys a’i warws yn Castle Park tra’n adeiladu swyddfa eco-gyfeillgar newydd.

Yn gwmni o 17 o weithwyr – ac yn un o is-gwmnïau Preseli Enterprises Ltd, Hong Kong – mae hefyd yn archwilio i opsiynau ynni adnewyddadwy er ceisio bod yn fwy canaliadwy fyth yn dilyn cynnydd yn yr ystod o’i wasanaethau “gwyrdd” a’r newid i gludo nwyddau ar y môr, lle bo’n bosibl, er lleihau allyriadau.

“Fel cwmni rydym yn ymwybodol iawn o’n heffaith carbon a’r diwydiant rydym yn gweithredu ynddo ac yn dymuno bod mor rhyngweithiol â phosib wrth leihau ein hôl troed carbon,” meddai Dave Wilson, y Rheolwr Gyfarwyddwr.

“Mae’r mynediad at gefnogaeth gan Becky Morgan yr ymgynghorydd wedi bod yn wych.  Mae ei gwybodaeth helaeth a’i chysylltiadau eang wedi ein helpu ni i baratoi cynlluniau lleihau carbon tymor hir.”

Trwy weithio gyda Pathway to Carbon Zero, dechreuodd Preseli y broses o osod paneli solar ar ei adeiladau.

“Rydym hefyd wedi gosod synwyryddion golau yn y toiledau ac yn defnyddio goleuadau LED. Rydym yn hyrwyddo arferion da, megis annog gweithwyr i ddiffodd offer trydanol pan yn segur, cynnal adolygiad o arferion teithio staff a gosod offer sydd yn fwy ynni-effeithlon,” meddai Dave.

“Fel busnes rydym yn edrych ar bob rhan o’r fusnes er mwyn bod yn fwy cynaliadwy, o ailgylchu cortynnau gwddf polyester i belenni RPET hyd at gyfrannu at elusennau perthnasol. Mewn ymgais i ddod yn barth busnes di-sbwriel rydym hefyd wedi ymuno â Flint Litter Pickers.

“Mae hwn wedi bod yn ymarfer cadarnhaol iawn ac mae derbyn y cymorth sydd ar gael pan fo angen yn amhrisiadwy. Rydym bellach yn fwy hyderus yn ein hagwedd ac yn ddiolchgar am y cyngor a’r arweiniad a dderbyniwyd drwy’r Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon.”

Wedi’i hanelu at sefydliadau yn Sir y Fflint, derbyniodd y Gronfa £297,294 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Mae’r grantiau ar gael i fusnesau i gael cyngor arbenigol ar sut i wneud eu sefydliadiadau’n fwy cynaliadwy yn ogystal â chynnig arweiniad am offer, adeiladau, defnydd ynni a systemau a dulliau lleihau ôl troed carbon a helpu i gynyddu proffidioldeb.

Rheolwr y Gronfa yw Rowan Jones a meddai: “Mae derbyn adborth mor gadarnhaol yn wych.  Rwy’n siwr bydd y canlyniadau’n cael effaith hirhoedlog a chadarnhaol ar Preseli Ltd yn ogystal â chwmnïau a sefydliadau eraill ar draws y rhanbarth.”

Am fwy o wybodaeth am Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon ewch i www.anturcymru.org.uk/flintshire, ebost [email protected] neu ffoniwch 01352 871298.

Fel arall, dilynwch Menter Antur Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol @anturcymruwales neu ewch i’r wefan : www.anturcymru.org.uk.

Am fwy o wybodaeth am Preseli Ltd. ymwelwch â Promotional Products Promotional Pens, Lanyards Corporate Gifts (preseli.biz).

What's your reaction?
0Cool0Bad0Lol0Sad

Menter gymdeithasol yw Menter Antur Cymru sy’n gweithio i ddiwallu anghenion cymunedau yng Nghymru trwy gefnogi busnesau newydd yn ogystal â thwf busnesau bach a mawr sy’n ffynnu.  Mae’n cynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a chymunedau busnes canol trefi.

Contact us

T: 01239 710 238
E: [email protected]

A: Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB

Cymraeg logo

AncoraThemes © 2025. All Rights Reserved.

Antur Cymru is a trading style of Antur Teifi | Antur Teifi is a registered society under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 Registered in Wales | © Antur Teifi | Reg. No. IP23194R | VAT No. GB 485 2427 30 | Website by Design Reaction