Llwyddodd Preseli Ltd, sydd wedi’i leoli’n Y Fflint, i leihau ei ôl troed carbon ar ôl derbyn grant gan y Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon.
Darperir y Gronfa gan Fenter Antur Cymru gyda chefnogaeth Pathway to Carbon Zero Ltd a Litegreen Ltd mewn cydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint.
Yn gweithredu fel masnachwr mewnforio’n unig a chyflenwr nwyddau anrhegion a chynnyrch hyrwyddo, cefnogwyd Preseli gan Pathway to Carbon Zero a Litegreen Ltd i ddod o hyd i’r ffordd fwyaf eco-gyfeillgar i ddatgaroboneiddio ei bencadlys a’i warws yn Castle Park tra’n adeiladu swyddfa eco-gyfeillgar newydd.
Yn gwmni o 17 o weithwyr – ac yn un o is-gwmnïau Preseli Enterprises Ltd, Hong Kong – mae hefyd yn archwilio i opsiynau ynni adnewyddadwy er ceisio bod yn fwy canaliadwy fyth yn dilyn cynnydd yn yr ystod o’i wasanaethau “gwyrdd” a’r newid i gludo nwyddau ar y môr, lle bo’n bosibl, er lleihau allyriadau.
“Fel cwmni rydym yn ymwybodol iawn o’n heffaith carbon a’r diwydiant rydym yn gweithredu ynddo ac yn dymuno bod mor rhyngweithiol â phosib wrth leihau ein hôl troed carbon,” meddai Dave Wilson, y Rheolwr Gyfarwyddwr.
“Mae’r mynediad at gefnogaeth gan Becky Morgan yr ymgynghorydd wedi bod yn wych. Mae ei gwybodaeth helaeth a’i chysylltiadau eang wedi ein helpu ni i baratoi cynlluniau lleihau carbon tymor hir.”
Trwy weithio gyda Pathway to Carbon Zero, dechreuodd Preseli y broses o osod paneli solar ar ei adeiladau.
“Rydym hefyd wedi gosod synwyryddion golau yn y toiledau ac yn defnyddio goleuadau LED. Rydym yn hyrwyddo arferion da, megis annog gweithwyr i ddiffodd offer trydanol pan yn segur, cynnal adolygiad o arferion teithio staff a gosod offer sydd yn fwy ynni-effeithlon,” meddai Dave.
“Fel busnes rydym yn edrych ar bob rhan o’r fusnes er mwyn bod yn fwy cynaliadwy, o ailgylchu cortynnau gwddf polyester i belenni RPET hyd at gyfrannu at elusennau perthnasol. Mewn ymgais i ddod yn barth busnes di-sbwriel rydym hefyd wedi ymuno â Flint Litter Pickers.
“Mae hwn wedi bod yn ymarfer cadarnhaol iawn ac mae derbyn y cymorth sydd ar gael pan fo angen yn amhrisiadwy. Rydym bellach yn fwy hyderus yn ein hagwedd ac yn ddiolchgar am y cyngor a’r arweiniad a dderbyniwyd drwy’r Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon.”
Wedi’i hanelu at sefydliadau yn Sir y Fflint, derbyniodd y Gronfa £297,294 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’r grantiau ar gael i fusnesau i gael cyngor arbenigol ar sut i wneud eu sefydliadiadau’n fwy cynaliadwy yn ogystal â chynnig arweiniad am offer, adeiladau, defnydd ynni a systemau a dulliau lleihau ôl troed carbon a helpu i gynyddu proffidioldeb.
Rheolwr y Gronfa yw Rowan Jones a meddai: “Mae derbyn adborth mor gadarnhaol yn wych. Rwy’n siwr bydd y canlyniadau’n cael effaith hirhoedlog a chadarnhaol ar Preseli Ltd yn ogystal â chwmnïau a sefydliadau eraill ar draws y rhanbarth.”
Am fwy o wybodaeth am Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon ewch i www.anturcymru.org.uk/flintshire, ebost [email protected] neu ffoniwch 01352 871298.
Fel arall, dilynwch Menter Antur Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol @anturcymruwales neu ewch i’r wefan : www.anturcymru.org.uk.
Am fwy o wybodaeth am Preseli Ltd. ymwelwch â Promotional Products Promotional Pens, Lanyards Corporate Gifts (preseli.biz).