Mae Telemat, cwmni Cymorth TG Antur Teifi, wedi ennill contract gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu cymorth TG i bob Aelod o’r Cynulliad yng Nghymru yn eu swyddfeydd mewn etholaethau. Bydd tîm Telemat yn cynorthwyo adran TG y Cynulliad Cenedlaethol drwy ddarparu cymorth i’r swyddfeydd sydd mewn etholaethau ledled Cymru.