Dyna apêl Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr Parc Gwyddonoaeth M-SParc yn Sir Fôn yn yr uwchgynhadledd fusnes a drefnwyd gan Fenter Antur Cymru yn y Quay Hotel & Spa yn Neganwy.
Ymysg y siaradwyr dylanwadol eraill ar y panel roedd Francis Johnson, sylfeinydd Parallel Care Solutions; Vicki Rushton, Gerallt Evans Metalcraft; Andrea Knox, cyfarwyddwr arbenigwyr cyfraith busnes Knox Commercial Solicitors, a Carolyn Parry, Llywydd y CDI (Careers Development Institute).
Yn annerch dros 40 o fynychwyr ar y diwrnod hefyd roedd Lorraine Hopkins, Rheolwr Rhaglenni Twf Busnes, Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor a Chris Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Alpine Travel.
Agorwyd yr uwchgynhadledd gan Bronwen Raine, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Antur Cymru sydd â’i phencadlys yng Nghastellnewydd Emlyn.
Agorwyd yr uwchgynhadledd gan Bronwen Raine, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Antur Cymru sydd â’i phencadlys yng Nghastellnewydd Emlyn.
Soniodd am sut mae’r sefydliad wedi helpu degau ar filoedd o bobl busnes yng Nghymru dros y 45 mlynedd diwethaf drwy llwyfannau megis Busnes Cymru a Syniadau Mawr Cymru.
“Mae pawb yn yr ystafell hon heddiw’n cydnabod yr angen am flaenoriaethu twf, nid yn unig er mwyn datblygu economi egnïol yng Nghymru ond hefyd ar lefel busnesau unigol, er mwyn cynyddu cynaladwyedd busnesau yn yr hinsawdd sydd ohoni,” meddai Bronwen.
“Mae hyn wedi bod yn fwy o her yn yr amgylchedd ariannol ac economaidd presennol. Felly mae’n bwysig bod rhanddeiliaid yn uno gyda’i gilydd i edrych ar ffyrdd o gydweithio a rhannu arbenigeddau.”
Yn yr uwchgynhadledd hefyd darlledwyd neges fideo arbennig oddi wrth Weinidog yr Economi, Vaughan Gething AS a ddywedodd: “Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio tuag at greu economi sydd yn gryfach, tecach a gwyrddach er hybu arloesedd ymysg busnesau ar draws Cymru.
“Mae entrepreneuriaeth ac arloesedd yn allwedol i dwf economi Cymru; drwy Busnes Cymru gallwn gefnogi ein busnesau meicro a busnesau bach a chanolig, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau a buddsoddi’n hirdymor yng Nghymru.
“O wneud cydweithredu yn flaenoriaeth dros gystadlu gallwn weithio tuag at sicrhau tegwch i bawb a cheisio dileu anghyfartaledd ar bob lefel yn ein cymdeithas.”
Ychwanegodd: “Wrth i Ogledd Cymru drawsnewid i fod yn economi carbon-isel trawsffiniol, integredig mae cyfleoedd economiadd sylweddol yn cynnig eu hunain. Rwy’n gobeithio y cewch ddiwrnod llwyddiannus heddiw. Yn fwy na hynny rwy’n gobeithio bydd pob yr un ohonom yn gweld llwyddiant go iawn yn digwydd ar draws Cymru gyfan yn cynnwys twf yng Ngogledd Cymru.”
Wrth atgyfenrthu sylwadau’r Gweinidog, tynnodd Pryderi sylw at yr “ecosystem” o dalent a chyfle yn M-Sparc ac ar draws y rhanbarth.
“Mae angen cydweithio a dyna pam mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig,” meddai.
“Cyfraniad gwerthfawr busnesau bach, a chanolig yw asgwrn cefn yr economi. Ond mae angen gweld llif cryfach o gyllid a buddsoddiadau preifat yn ogystal â chyllid ar gyfer Ymchwilio a Datblygu i gefnogi arloesedd a ffocysu ar sgiliau – rhywbeth mae’n amlwg mae pawb yma heddiw’n teimlo gryf amdano.
“Her enfawr yw dod o hyd i ymgeiswyr â sgiliau i gyflenwi swyddi yng Ngogledd Cymru, ond trwy gydweithio, mae modd i ni gyflawni ac o’r llwyddiant hwn daw hwb enfawr i’r economi.”
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.anturcymru.org.uk neu ddilynwch @anturcymruwales ar y cyfryngau cymdeithasol.