Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn ganolog i ethos ein sefydliad ac yma yn Antur Teifi rydym yn falch ein bod wedi derbyn cydnabyddiaeth C2E (Wedi Ymrwymo i Gydraddoldeb) ers 2010 a’r Safon Aur ers 2016.
C2E yw’r sefydliad achrededig cenedlaethol sy’n sicrhau gwarantu ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle. Am ragor o fanylion am y cynllun cliciwch yma https://www.c2e.co.uk/
Rydym yn falch o gyhoeddi hefyd bod Antur Teifi wedi ennill statws Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd (‘Disability Confident Employer’) am ddwy flynedd arall. Mae’r achrediad hwn yn cydnabod ein hymrwymiad i sicrhau bod yr anabl, neu’r rheini â chyflyrau iechyd hirdymor, yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Nod y cynllun yw helpu cyflogwyr i wneud y gorau o’r cyfleoedd a ddarperir trwy gyflogi pobl anabl. Mae’n wirfoddol ac fe’i datblygwyd gan gyflogwyr a chynrychiolwyr ar ran pobl anabl. Am ragor o wybodaeth am y cynllun ewch i
www.gov.uk/government/collections/disability-confident-campaign
Cyber Essentials
Unwaith eto mae Antur Teifi wedi llwyddo i ennill Tystysgrif Cyber Essentials. Ar ôl cwblhau’r holl ofynion angenrheidiol, gall Antur Teifi arddangos y bathodyn CREST i ddangos ei fod yn gwneud popeth yn ei allu i amddiffyn y busnes rhag fygythiadau seiber.
Diolch i dîm TG Telemat am eu cyfarwyddyd yn y gwaith o baratoi ar gyfer ad-ennill yr achrediad pwysig hwn eleni eto.