Fel sefydliad sy’n darparu sgiliau ac adnoddau I wasanaeth Busnes Cymru, sy’n perthyn i Lywodraeth Cymru, mae Antur Teifi wedi bod yn cefnogi llawer o syniadau busnes. Mae rhai o’r syniadau busnes hynny’n gyfarwydd, mae rhai’n newydd ac mae rhai’n annisgwyl. Bydd llawer o berchnogion y busnesau hynny’n fodlon aros yn fach.Bydd gweithio ar eu liwt eu hunain a chynhyrchu digon o incwm iddynt allu eu cynnal eu hunain a chynnal eu teuluoedd yn gamp ynddo’i hun. Ond I berchnogion eraill, cyn gynted ag y byddant wedi dechrau cael noson dda o gwsg ar ôl ymlafnio i ddechrau eu busnes, bydd yr awydd i dyfu a datblygu’n eu cymell i fynd drwy gyfnod anodd unwaith yn rhagor.
Felly, sut y dylai busnesau fynd ati i dyfu yn y dyfodol? O’r busnesau a gynorthwywyd, cafodd 30% ohonynt eu categoreiddio’n fusnesau “twf”. Y diffiniad o dwf yn y cyd-destun hwn yw busnes yr amcangyfrifir y bydd ei drosiant uwchlaw’r trothwy ar gyfer TAW yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac sydd â’r gallu hefyd i gyflogi staff. I fusnesau twf presennol yn ogystal â busnesau newydd, bydd llwyddiant yn y dyfodol yn dibynnu’n helaeth iawn ar gynllunio, yn ôl Mel Davies, Uwch-Ymgynghorydd Busnes ar gyfer Busnes Cymru yn Sir Gaerfyrddin.
“Mae llawer o fusnesau’n meddwl bod twf yn gyfystyr â mwy o werthiant,” meddai Mel, “ond mae hefyd yn bwysig canolbwyntio ar sut i gynnal neu wella eich gallu i wneud elw, drwy flaengynllunio a marchnata er mwyn datblygu a chynnal eich gallu i gystadlu.” Mae’r cyngor hwn yn sicr wedi talu ar ei ganfed i un cwmni sydd wedi cael cymorth gan Fusnes Cymru.
Cwmni Pro-tect GRP yn Llangennech yw un o brif gwmnïau’r DU ym maes cynhyrchu a chyflenwi caeadleoedd o blastig wedi’I atgyfnerthu â ffibrau gwydr. Mae wedi tyfu o fod yn dîm o bedwar yn wreiddiol yn 2009 i fod yn weithlu o ddeugain erbyn heddiw. Mae’r perchnogion yn cydnabod eu bod wedi cynllunio’n eithaf cynnar ar gyfer twf y cwmni.
“Ystyried y lle a’r sgiliau yr oedd eu hangen i ehangu oedd y flaenoriaeth gyntaf,” yn ôl Rhys Davies, un o’r cyfarwyddwyr. “Mae edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn y farchnad ac ymateb iddo’r un mor bwysig. Nodwyd bod y ffaith nad oedd gennym System Rheoli Ansawdd (ISO9001) yn rhwystr wrth dendro. Rydym wedi cael yr ardystiad hwnnw’n awr, ac mae hynny wedi ein galluogi i gystadlu â chwmnïau sy’n fwy o faint.”
Yn y cyfamser, mae MudTrek yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin wedi datblygu eu busnes o safbwynt gwahanol. Mae’r cwmni, a gaiff ei redeg gan Nikki Channon a Jason Mulvey, sy’n ?r a gwraig, yn arbenigo ar ddarparu penwythnosau a gwyliau byr a hir â gwasanaeth arlwyo llawn I feicwyr mynydd. “Nid oedd gennym gynlluniau pendant ond roedd gennym ddyheadau mawr,” esboniodd Nikki. “Yr hyn yr ydym wedi’i wneud yw ceisio cael gafael ar yr holl help sydd ar gael a manteisio arno.
Roedd hynny’n cynnwys llunio cynllun busnes, gyda help Busnes Cymru, er mwyn sicrhau cyllid i fuddsoddi yn y beiciau mynydd gorau posibl.”
Heb os, mae gwaith caled, agwedd benderfynol a brwdfrydedd ynghylch eu
cynnyrch yn rhinweddau personol sydd wedi galluogi’r busnesau hyn I lwyddo, ond mae Mel Davies yn pwysleisio bod yn rhaid I fusnesau fod yn flaengar a chwilio’n gyson am ffyrdd o wella eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Ychwanegodd, “Mae cynllun strategol yr un mor bwysig â chynllun busnes I gwmni sy’n tyfu. Bydd pennu amcanion busnes a gwybod beth yw eich nod o gymorth yn bendant I ddatblygiad a thwf y busnes.”