Bydd Uned Ymchwil Economi Cymru Prifysgol Caerdydd yn lansio'r Arolwg Aeddfedrwydd Digidol…
Bwriad y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd (FBIS) yw helpu pobl sy’n…
Wedi eu trefnu gan Fusnes Cymru, cynhaliwyd cyfres o seminarau ar draws Dyffryn Teifi yn ystod mis Gorffennaf a mis Medi ar gyfer perchnogion busnes yn yr ardal. Nod pob seminar oedd canfod pam a sut y byddai busnesau yn elwa o ddefnyddio'r iaith Gymraeg i hyrwyddo eu busnes .
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Antur Teifi yn ddiweddar a gynhaliwyd ar safle Caws Cenarth, sef cwmni lleol sy’n cynhyrchu caws yn Nyffryn Teifi, cyflwynodd Dewi Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Teifi, y wybodaeth ddiweddaraf i’r cyfranddalwyr am yr hyn a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn fusnes 2014/15, a rhoddodd grynodeb o’r mentrau y mae Antur Teifi yn eu gweithredu ar hyn o bryd.
Mae 92% o fusnesau a gofrestwyd yn Nyffryn Teifi yn gwmnïau bach. Er ein bod erbyn hyn yn gweithio gyda chwmnïau ledled Cymru, ry’ ni’n credu bod gennym gyfraniad gwerthfawr i'w wneud o ran cefnogi busnesau bach a thwf yn Nyffryn Teifi nid lleiaf drwy weithio mewn partneriaeth â Pharth Twf Dyffryn Teifi a grëwyd o ganlyniad i ganfyddiadau'r Gr?p Gorchwyl Gorffen Dyffryn Teifi a sefydlwyd gan Edwina Hart, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth .
Ar y 25 a 26 Mawrth bu cynrychiolwyr o Antur Teifi yng Nghynhadledd Dyfodol y Stryd Fawr yn Nottingham. Yn gwmni i Eleri Lewis o Canta a Jude Boutle Pencampwr y Dref Llandrindod yr oedd Angharad Williams perchennog busnes ifanc o Lanbedr Pont Steffan.
Menter Gymdeithasol yw Antur Teifi – cwmni sydd yn dangos ymrwymiad clir i roi’r modd i fusnesau ffynnu a chyfrannu at economi sy’n tyfu. Mae 84 o bobl yn gweithio i’r cwmni, yn darparu gwasanaethau i gwmnïau preifat ac adrannau o’r Llywodraeth ar draws ystod o feysydd busnes yn cynnwys Deallusrwydd y Farchnad, Cynllunio Busnes ac Ariannu busnesau. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2015, fe gynhyrchwyd trosiant o £3.5m o’r gweithgaredd.