Menter Gymdeithasol yw Antur Teifi – cwmni sydd yn dangos ymrwymiad clir i roi’r modd i fusnesau ffynnu a chyfrannu at economi sy’n tyfu. Mae 84 o bobl yn gweithio i’r cwmni, yn darparu gwasanaethau i gwmnïau preifat ac adrannau o’r Llywodraeth ar draws ystod o feysydd busnes yn cynnwys Deallusrwydd y Farchnad, Cynllunio Busnes ac Ariannu busnesau. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2015, fe gynhyrchwyd trosiant o £3.5m o’r gweithgaredd.
Buddsoddwyd y gwarged o fewn y cwmni mewn cynlluniau i hybu ffyniant o fewn busnesau. Y fenter ddiweddara, a lansiwyd yn 2015, yw Perspectif – cwmni sy’n dadansoddi a deall marchnadoedd a thrwy hynny yn helpu cwmnïau i ddeall eu cwsmeriaid a’u hybu i wneud yn fawr o gyfleoedd yn y farchnad. Mae Bwrdd Antur Teifi, ar ran y cyfranddalwyr, yn parhau i arwain Antur Teifi i ddefnyddio’r dulliau gorau posib o ddefnyddio adnoddau ac arbenigedd i wella perfformiad yr economi mewn partneriaethau ag eraill.