Mae rhaglen cymorth busnes Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru yn gweithio gyda miloedd o gwmnïau ar draws Cymru i helpu sefydlu busnesau newydd a hybu eraill i dyfu. Mae Antur Teifi yn darparu’r gwasanaeth busnes yma ar ran Llywodraeth Cymru ar draws y wlad o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin.
Trwy’r gwasanaeth hyn a gweithgareddau masnachol eraill, mae Antur Teifi wedi rhoi cymorth i dros 7000 o fusnesau yn ystod y flwyddyn hyd at ddiwedd Mawrth 2015.
Mae’n gwasanaethau i’r sectorau preifat a chyhoeddus hefyd wedi arwain at greu, amddiffyn a llenwi 1889 o swyddi yn yr un cyfnod. Mae Trac, adran gwasanaethau cyflogaeth Antur Teifi, wedi cyfrannu’n helaeth at y ffigwr hwn drwy’r gwaith maent yn ei wneud i ffeindio cyfleoedd i bobl ddi-waith hir dymor i gael profiad gwaith a chyflogaeth o fewn cwmnïau a mudiadau ym Mhowys a Sir Gâr.