Fel rhan o’i bartneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae cwmni Cefnogaeth TG Telemat wedi cwblhau uwchraddiad mawr yn ddiweddar ar system Di-Wifr ym mhob un o’r wyth amgueddfa ledled Cymru.
Wedi cefnogi Amgueddfa Genedlaethol Cymru ers 2018, roedd y gwaith hwn yn rhan o’r cytundeb gwreiddiol i ddarparu uwchraddiadau a gosodiadau Di-Wifr yn ystod tymor y cytundeb. Yn y broses dendro ledled Ewrop, llwyddodd Telemat i guro cystadleuaeth gan bedwar gosodwr Di-Wifr busnes arall yn y Du. Canmolwyd cyflwynid Telemat nid yn unig am ei ddealltwriaeth o’r gofynion ond hefyd am ei fanyleb “uwch na’r disgwyl.”
Yn dilyn yr uwchraddiad, gall yr amgueddfeydd nawr gynnig cysylltiad Di-Wifr cyflymach i ymwelwyr a staff yn ogystal â’r gallu i gyrchu data dadansoddol o’r niferoedd a thueddiadau ymwelwyr. Mae’r swyddogaeth hon yn darparu cyfleoedd marchnata gwerthfawr ar gyfer hyrwyddo digwyddiadau ac amlygu nodweddion allweddol pob amgueddfa.
Mae rhai o’r safleoedd sydd wedi elwa o’r uwchraddio yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei hun yng Nghaerdydd, yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol yn Llanberis, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Drefach Felindre a Mwyngloddiau Aur Dolaucothi.
I ddarganfod mwy am Gytundebau Cymorth Busnes TG, Di-Wifr ar gyfer Busnes a Threfi neu datrysiadau Busnes TG cliciwch ar y dolenni canlynol: