Mae’r digwyddiad yn cydnabod ac yn dathlu’r amrywiaeth o fusnesau yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei redeg gan WalesOnline ynghyd â’r Carmarthen Journal a Llanelli Star.
Noddir y digwyddiad gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac fe’i gynhelir ar nos Wener, Ionawr 18 yng Ngwesty Parc Y Stradey, Llanelli.
Mae yna 10 categori a dewisir rhestr fer o dri o bob categori yn ogystal ag un enillydd a gaiff ei wobryo yn Busnes y Flwyddyn.
Rhaid i fusnesau weithredu neu wedi eu cofrestru yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro. Y dyddiad cau yw 11.59pm ddydd Sul, Tachwedd 25.
Y categorïau yw:
- Amaeth
- Gweithgynhyrchu – busnes mawr
- Gweithgynhyrchu – Busnesau bach a chanolig
- Manwerthu
- Gwasanaethau
- Twristiaeth a hamdden
- Hyfforddiant a datblygu
- Adeiladwaith
- Busnes bach
- Bwyd a diod
Am ragor o fanylion am bob un o’r categorÏau ewch i: goo.gl/9trhJq