Mae Cwmni Cymorth TG Telemat wedi llwyddo i sicrhau ei le ar fframwaith cymorth technegol arbenigol Cyswllt Ffermio i gefnogi prosiect Ffermydd Arddangos, Rhyngrwyd Pethau (IoT)
Bydd Telemat TG, ynghyd â’i bartner, Yngynghoriaeth Morgan Walsh Cyf, yn cynnig ei brofiad a’i wybodeth i ddarparu cymorth ymgynghori, a pheirianwyr gwasanaeth maes, trwy osod, cynnal ac uwchraddio’r seilwaith IoT ar draws Cymru.
Mae IoT yn cynnig cyfle i fonitro a mesur ystod o weithgareddau ar ffermydd trwy ddefnyddio technoleg cost isel gan gynnwys amrywiaeth o synwyryddion sy’n medru nodi tymheredd, ansawdd aer, symudiad gatiau, ansawdd dŵr a llawer mwy.
Gydag amser, bydd cymwysiadau IoT yn newid y ffordd rydym yn gweithio gan drawsnewid ystod eang o ddiwydiannau. Mae Telemat yn falch iawn o’r cyfle i fedru gweithio yn y maes pwysig hwn wrth i dechnolegau newydd ddod i’r amlwg a datblygu.
Mae prosiect a gyflawnwyd gan Morgan Walsh wrth ail-ddatblygu rheolydd tanc llaeth yn esiampl dda o effaith IoT ar y byd amaeth. Ddwy flynedd ar ôl ei ddadorchuddio, mae’r system IoT monito llaeth yn arbed tua 10,000 litr o laeth y mis i ffermwyr ar draws y byd oherwydd bod y dechnoleg newydd hon yn medru tynnu sylw ffermwyr a pheiranwyr fferm at unrhyw broblemau yn syth.
Dywedodd Gary Howell o Morgan Walsh:
“Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr fonitro ystod eang o weithgareddau ar eu ffermydd yn awtomatig a fydd yn eu tro yn lleihau costau rhedeg y fferm, yn cynyddu proffidioldeb ac yn helpu i gynhyrchu cynnyrch o ansawdd gwell”.
Meddai Aled Davies o Gwmni TG Telemat:
“Mae gweithio i Gyswllt Ffermio yn cydweddu â’n cryfderau ni fel cwmni trwy gydweithio ag arbenigwyr yn y maes amaethyddol i ddarparu datrysiadau TG dwyieithog, ac ry’ ni’n edrych ymlaen at gryfhau’r berthynas â sector sydd mor bwysig i economi Cymru”.
Mae’r rhaglen Cyswllt Ffermio yn cefnogi datblygiad sector mwy proffesiynol, proffidiol a gwydn ar y tir. Mae’n cynnwys rhaglen integredig o drosglwyddo gwybodaeth, arloesi a gwasanaethau cynghori sydd wedi’u cynllunio i ddarparu mwy o gynaliadwyedd, gwell cystadleurwydd, a gwell perfformiad amgylcheddol.
I gael mwy o wybodaeth am Gwmni Datrysiadau TG Telemat: www.telemat.co.uk, neu www.anturcymru.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad i’r wasg hwn a lluniau:
Dai Nicholas, Rheolwr Marchnata, Menter Antur Cymru a Datrysiadau TG Telemat ar 07736542280
I gael gwybodaeth am Morgan Walsh: www.morganwalsh.co.uk
Llun/Photo by: © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2019) Cymru Wales