Diwedd 2017, ymatebodd Telemat i dendr er mwyn darparu system Wi-Fi i 8 o safleoedd Amgueddfa Cymru. Y gofyniad oedd darparu cyfleuster Wi-Fi cyflym i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn cynnwys Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Sain Fagan, Amgueddfa Wlân Cymru yn Nhrefach Felindre a Mwyngloddiau Aur Dolaucothi.
Cafodd y tendr ei ganmol am arddangos dealltwriaeth lawn o’r hyn a ofynnwyd amdano yn ogystal â darparu manyleb gwell na’r disgwyl o ran yr offer a amlinellwyd. O ganlyniad mae’r amgueddfeydd, yn ogystal â chynnig Wi-Fi cyflym i ymwelwyr a staff ar draws yr ystâd gyfan, hefyd yn medru gwneud defnydd o ddata sy’n perthyn i niferoedd a phatrymau ymwelwyr, a hyd yn oed yn bwysicach na hynny yn cynnig cyfleoedd marchnata er mwyn hyrwyddo digwyddiadau sydd ar ddod.