Daw profiad ystafell ddianc unigryw newydd i’r Drenewydd gyda chefnogaeth Busnes Cymru. Yn wyneb diswyddo ac yn awyddus i ddefnyddio eu profiad o ddatblygu gemau pwrpasol, penderfynodd Lorna Morris a Jo Woodall gychwyn eu busnes ystafell ddianc eu hun yn y Drenewydd. Lansiwyd Beyond Breakout ym mis Ionawr 2020 gyda chefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.
Penodwyd Rheolwr Perthynas o fewn Busnes Cymru i helpu Lorna a Jo i ddatblygu’r syniad cychwynnol a cefnogi’r entrepreneuriaid gyda’r canlynol:-
- Creu Cynllun Busnes
- Cefnogaeth marchnata a rhagolygon ariannol
- Helpu i sicrhau pecyn cyllid o nifer o wahanol ffynonellau, gan gynnwys y Cwmni Benthyciadau Cychwyn Busnes a cronfa Banc Nat West ar gyfer Menywod mewn Busnes.
- Cefnogaeth bellach i ddod o hyd a sicrhau yr eiddo cywir ar gyfer y busnes, ynghyd â thrafod telerau ac amodau prydles.
Roedd cefnogaeth Busnes Cymru yn golygu’r canlyniadau canlynol:-
- Busnes cychwyn newydd llwyddiannus.
- £10,000 wedi’i sicrhau gan y Cwmni Benthyciadau Cychwyn Busnes.
- Creu 2 swydd yn cyfrannu at economi Cymru.
Yn fwy diweddar, mae Rheolwr Perthynas Busnes Cymru wedi bod yn rhagweithiol ac yn amhrisiadwy wrth geisio dod o hyd i’r help busnes i oroesi’r achosion o COFID-19.