Entrepreneur yn ei arddegau gyda’i fryd ar fusnes yn mentro gyda menter ym maes pryfeteg
Mae person ifanc 17 oed o Lanelli gydag uchelgais i ddilyn ôl troed ei eilun, David Attenborough wedi agor siop bryfed gyntaf Cymru, gan droi ei ddiddordeb mewn pryfed pan yn blentyn yn fusnes.
Sefydlodd Cameron Reardon, sydd yn ei flwyddyn olaf yng Ngholeg Sir Gâr, ei siop bryfed moesegol, Bug Box UK pan oedd ond yn 16 mlwydd oed, ar ôl nodi bwlch yn y farchnad yng Nghymru.
Yn ogystal â gwerthu pryfed egsotig, mae Bug Box UK yn cynnig sesiynau gafael mewn pryfed, ‘dosbarthiadau dychryn’ ac yn cynnig tri chynllun addysgol ar gyfer disgyblion cynradd, uwchradd a chweched dosbarth, gan deilwra ei weithdai i adlewyrchu’r heriau amgylcheddol sy’n wynebu’r boblogaeth bryfed.
Lansiwyd Bug Box UK ochr yn ochr ag astudiaethau Cameron, sy’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr ar hyn o bryd, cyn cychwyn gradd mewn Busnes a Marchnata ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi.
Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd yn rhedeg fy musnes fy hun ac yn cael cwrdd â nifer fawr o wahanol fathau o bobl bob dydd. Mae’n wych cael bod yn fos arnaf fi fy hun hefyd. Fel hyn rwy’n gallu gweithio’n galed er mwyn llwyddo a pharhau i astudio.”
Ychwanegodd Cameron: “Gweithiodd Syniadau Mawr Cymru gyda mi i ddatblygu fy nghynllun busnes, ac roedd bob amser yn cynnal amryw o ddigwyddiadau gwych ar gyfer pobl fusnes ifanc. Es i i weithdy allforio yn Llanelli, ac roedd wir yn agoriad llygad. Helpodd y digwyddiad fi i ddeall sut y gallwn allforio i wahanol wledydd yn y dyfodol.”
Yn ôl cynghorydd busnes Cameron:
Dim ond 17 oed yw Cameron, ac mae’n dal i astudio yn y coleg. Ond er hyn, mae’n llwyddo i redeg busnes llwyddiannus hefyd. Mae’n enghraifft wych o entrepreneur ifanc uchelgeisiol a phenderfynol, ac alla i ddim aros i weld sut bydd Bug Box UK yn tyfu yn y dyfodol.