Mae Cyfrifwyr Siartredig LHP sydd a’i bencadlys yng Nghaerfyrddin wedi defnyddio gwasanaethau TG Telemat, i ddarparu Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) cwmni dros y 5 mlynedd diwethaf er mwyn darparu datrysiad gwaith swyddfa o bell i’w staff o 50. Mewn ymateb i argyfwng COVID 19, mae Telemat wedi galluogi’r busnes i fedru gweithio’n llawn o bell o fewn 24 awr yn eu swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Hwlffordd a Llambed. Medrodd LHP barhau i gynorthwyo cleientiaid gyda chyngor amserol yn ystod yr argyfwng gan wneud hynny’n ddi-dor.