Chloe a Robin Masefield yw perchnogion Natural Weigh Ltd, y siop ‘ddiwastraff’ gyntaf yng Nghymru, sy’n rhoi dewis i bobl fynd i siopa gan osgoi deunyddiau pacio plastig.
Mae Natural Weigh yn cynnig cysyniad hyblyg ac ecogyfeillgar sy’n galluogi cwsmeriaid i lenwi eu cynwysyddion eu hunain gyda chymaint ag sydd eu hangen arnynt a thalu yn ôl y pwysau. Mae holl stoc Natural Weigh yn organig ac yn rhydd o ychwanegion er mwyn annog pobl i fyw bywyd mwy iach wrth gefnogi planed iachach.
Cynorthwyodd Rheolwr Perthynas Busnes Cymru Robin a Cloe wrth iddynt sefydlu Natural Weigh, gan eu cefnogi ac weithiau herio rhai o’u rhagdybiaethau a’u rhagolygon wrth iddynt ddechrau cynllunio eu busnes. Cynorthwyodd Cynghorydd Cynaliadwyedd Busnes Cymru nhw i fireinio eu polisi Cynaliadwyedd ac fe helpodd Ymgynghorydd Adnoddau Dynol Busnes Cymru nhw i gynllunio a pharatoi ar gyfer recriwtio eu haelodau staff cyntaf. Aeth Chloe hefyd i weithdy Brandio a Marchnata Busnes Cymru.
Yn dilyn yr help a ddarparwyd gan wasanaeth busnes blaenllaw Llywodraeth Cymru, mae Natural Weigh wrthi’n recriwtio 2 weithiwr newydd.
Yn ôl Chloe Masefield: “Roedd ymgysylltu gyda Steve Maggs o wasanaeth Busnes Cymru yn drobwynt i ni o ran rhedeg ein busnes. Er i ni fod yn ei reoli yn iawn fel ag yr oedd hi, roedden ni’n ei chael hi’n anodd ystyried unrhyw newidiadau, fel cyflogaeth. Llwyddodd Steve, drwy wasanaeth Busnes Cymru ein rhoi mewn cysylltiad gydag unigolion a allai ein helpu gyda recriwtio, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein busnes, ystyried cyrsiau hyfforddi a’n helpu gyda chyngor marchnata. Mae wedi bod yn ffynhonnell wych ar gyfer cymorth, gwybodaeth a chysylltiadau ac rydym yn hynod ddiolchgar am wasanaeth Busnes Cymru.”