Cysylltodd perchennog Roy’s Cafe, Barir Eydan â Busnes Cymru ddiwedd 2019 pan oedd yn adnewyddu adfeilion caffi a oedd wedi bod yn segur ers 5 mlynedd ac a oedd unwaith yn ganolfan i’r pentref ar gyfer prydau brecwast a chinio.
Er bod gan Barir brofiad da mewn arlwyo, bu mewn partneriaeth busnes yn flaenorol, roedd angen bwrdd seinio a chyngor arno er mwyn hwyluso ei fenter unigol gyntaf.
Penodwyd Cynghorydd Busnes Cymru a rhoddwyd pecyn o gefnogaeth gyffredinol ar waith a oedd yn cynnwys:
- Cyngor ar ei gytundeb les.
- Cyfeirio at gymorth ar ei Seilwaith TG.
- Cyfeirio at gyfleoedd cyllid.
- Cyngor ar gynllunio cyllid.
- Helpu gyda throsolwg o’i gostau cychwyn.
- Help i lenwi Ffurflenni Mynegi Diddordeb ar gyfer cyllid grant.
- Cyngor ar farchnata.
- A chyfeirio ymhellach at weithdai ar Adnoddau Dynol, Marchnata a Chyllid.
Mae’r busnes bellach wedi’i adfer yn ganolfan i’r pentref sy’n gweini brecwast a chinio traddodiadol. Bu argyfwng COVID-19 yn broblem ond cafodd ei goresgyn o fewn dim wrth i Barir gynnig gwasanaeth tecawê ffonio a chasglu.