Fe wnaeth tref farchnad brysur Aberteifi yng Ngheredigion ofyn am wasanaethau ymgynghorol Gwasanaeth TG Telemat er mwyn datblygu gwasanaeth Wi-Fi i’r dref, i ddechrau er mwyn darparu cysylltedd i ymwelwyr a siopwyr rhanbarthol, ond fe wnaeth y prosiect a ddarparwyd gan ein tîm fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau cychwynnol hynny. Mae’r datrysiad bellach yn cynnig:
- Wi-Fi yn y lleoliadau siopa ac ardaloedd ehangach.
- Olrhain symudiadau ymwelwyr ar draws y dref.
- Dadansoddi data sy’n medru rhoi manylion am amserau prysur a thawel pan fydd cwsmeriaid yn siopa ac arferion hamdden.
- Cyfleoedd marchnata uniongyrchol, lle mae ymwelwyr yn rhoi caniatad, trwy ffonau symudol a thabledi.
- Casglu manylion cyswllt ebost a ffonau symudol trwy feddalwedd rhoi caniatad.
Rhoddwyd gwasanaeth marchnata rheolaidd yn ei le er mwyn anfon newyddion ar weithgarwch yn y dref i fwy na 10,000 o bobl (Mehefin 2020) er mwyn denu cwsmeriaid yn ôl.