Busnes teuluol yw Williams Marine sydd wedi tyfu ac arallgyfeirio mewn amser byr ers iddo gychwyn yn 2018. Mae’r busnes yn gweithredu o ran dal cregynbysgod a chynhyrchu cychod ar ddau safle yn Aberdaugleddau a Llanelli.
Mae’r gefnogaeth y mae Antur wedi’i roi yn cynnwys:
- Cynorthwyo i greu Cynllun Busnes, Cynllun Marchnata a Rhagamcaniadau Ariannol er mwyn derbyn arian o’r banc.
- Cydweithio gyda Chronfa Twf Sir Gaerfyrddin er mwyn dod o hyd i arian grant.
- Cydweithio gyda’r cleient er mwyn cwblhau cais llwyddiannus i gronfa Loteri Sir Benfro.
- Cyflwyniad i brosiect Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru.
- Cefnogaeth gyda Digwyddiad Hyrwyddo Byw.
- Cyflwyniad i gefnogaeth ymgynghorol arbenigol mewn Allforio, AD a Chynaliadwyedd.
Cefnogaeth Allforio Arbenigol
Cregynbysgod
- Cefnogaeth masnachu rhyngwladol er mwyn edrych ar y posibilrwydd o allforio cynnyrch byw i Qatar, Ffrainc a Sbaen gyda chysylltiadau i gefnogaeth Llywodraeth Cymru ym mhob gwlad a dealltwriaeth o ddatblygu dulliau a phrosesau.
- Cyflwyno partneriaid allweddol er mwyn galluogi rhoi’r broses allforio yn ei lle.
Cychod
- Darparwyd cymorth allforio i farchnadoedd allweddol yn cynnwys UDA a Seland Newydd.
- Mae allforio bellach yn rhan allweddol o’r strategaeth fusnes.
Adolygiad Cynaliadwyedd a Chefnogaeth
- Cefnogir trwy ddatblygu Polisi Amgylcheddol a strategaeth fonitro briodol.
- Darparwyd cyngor a chanllawiau ar reolaeth safle ac osgoi llygredd, yn cynnwys templedi a deunyddiau hyfforddi.
- Cyfeirio at offer rhewi ynni effeithlon a chymhellion cysylltiedig â threth.
Cefnogaeth AD Arbenigol
- Darparu canllawiau ar Delerau ac Amodau Cyflogaeth Ysgrifenedig a Llawlyfr Cwmni
- Rhoi polisïau priodol yn eu lle, yn arbennig Polisi Cyfle Cyfartal a Chynllun Gweithredu, Polisi Iaith Gymraeg
- Darparu gwybodaeth yn ymwneud â methodoleg recriwtio teg, gweithdrefnau anwytho a rheoli perfformiad