Mae’r wybodaeth isod wedi’i diweddaru ac yn cynnig cipolwg ar y gefnogaeth sydd ar gael ifusnesau sy’n cael eu gorfodi i gau, ynghyd â’r meini prawf cymhwysedd cysylltiedig.
Oherwydd y cyhoeddiad am y cyfnod clo ar ganol nos neithiwr (Dydd Sul, Rhagfyr 20ed) fe fydd y sefyllfa yn cael ei diweddaru, felly edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru am ddiweddariadau bob dydd.
Mae mwy o wybodaeth am y pecyn cymorth busnes ar gael yn:
www.businesswales.gov.wales/coronavirus-advice.
Mae Antur Cymru yn asiantaeth fusnes o Gymru sy’n cefnogi economi fusnes Cymru trwy gynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a phrosiectau adfywio canol tref.
Gyda dros 40 mlynedd yn rhan o dirwedd fusnes Cymru, mae Antur Cymru yn darparu gwasanaeth cyngor Busnes Cymru yng Nghanolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru yn ogystal â chynnig ystod o wasanaethau ymgynghori masnachol ac arbenigol.
Os hoffech gael cefnogaeth Ymgynghorydd Busnes Cymru trwy Antur Cymru, cysylltwchâ’n swyddfeydd rhanbarthol:
Busnes Cymru Canolbarth a Gorllewin Cymru: 01267 233749
Busnes Cymru Gogledd Cymru: 01745 585025
www.anturcymru.org.uk